DIWEDDARIAD YMWELIAD COVID-19: Sylwch fod ein rheolau ynghylch ymweliadau ysbyty wedi newid. I gael y canllawiau diweddaraf ar ein rheoliadau ymweld, ewch i'r dudalen hon.
Gallwch hefyd ffonio Physio Direct a siarad â ffisiotherapydd cymwys. Sylwch, mae'r rhifau hyn ar gyfer Physio Direct yn unig. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch apwyntiadau ffisiotherapi, gallwch ddod o hyd i'r rhifau cyswllt ar gyfer adran ffisiotherapi pob ysbyty ar y dudalen hon.
Abertawe - 01792 487453, Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 13.00pm (ac eithrio gwyliau banc)
Castell-nedd Port Talbot - 01639 683167 neu 683168, Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 13.00pm (ac eithrio gwyliau banc)
Gallwch gyfeirio'ch hun am ffisio trwy lenwi un o'r ffurflenni isod:
Nodwch bod y Ffurflenni Atgyfeiriad isod ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.
Ffurflen Hunangyfeirio Castell-nedd Port Talbot
Ffurflen Hunangyfeirio Abertawe
Mae ffurflenni hunangyfeirio ar gael hefyd o feddygfeydd meddygon teulu ac adrannau ffisiotherapi. Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r ffurflen, gellir ei phostio, neu ei chyflwyno i'r adran ffisiotherapi yn naill ai Ysbytai Castell-nedd Port Talbot, Singleton neu Dreforys, lle byddwch wedyn yn cael eich rhoi ar y rhestr aros. |