Neidio i'r prif gynnwy

Adborth

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bob amser yn ceisio gwella gwasanaethau ac er mwyn gwneud hyn mae angen i ni glywed gennych. Rydym yn gwerthfawrogi pob adborth, boed yn dda neu'n ddrwg, ac yn eich annog i ysgrifennu atom yn amlinellu eich profiadau. Rydym hefyd yn croesawu eich ymholiadau am unrhyw beth a allai fod o ddiddordeb i chi neu yr hoffech gael rhagor o wybodaeth amdano.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.