Neidio i'r prif gynnwy

Patholeg

DIWEDDARIAD YMWELIADAU COVID-19: Sylwch fod ein rheolau ynghylch ymweliadau ysbyty wedi newid.I gael y canllawiau diweddaraf ar ein rheoliadau ymweld, ewch i'r dudalen hon.

Mae Adran Patholeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'n cydweithwyr clinigol a'u cleifion trwy ddiagnosis cynhwysfawr, monitro a rheoli clefydau. Mae ein gwasanaethau dadansoddi a chynghori yn cwmpasu pob agwedd ar Batholeg, sy'n cynnwys:

  • Meddygaeth Labordy (Biocemeg, Haematoleg, Haematoleg Cellog, Imiwnoleg, Tocsicoleg, Trallwyso Gwaed, Fflebotomi (gweler: Profion Gwaed am ragor o wybodaeth),
  • Pwynt gofal, Ymchwil a Datblygiad a'r tîm Gwasanaeth Sendaway a Logisteg)
  • Patholeg Cellog (Histopatholeg, Sytoleg Ddiagnostig Di-Gynae, Marwdai a Gwasanaethau Profedigaeth)
  • Microbioleg (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Mae labordai Patholeg BIP Bae Abertawe wedi'u lleoli yn Nhreforys, Singleton, a Thywysoges Cymru (yn amodol ar newidiadau parhaus i'r ffiniau), ynghyd â Derbynfa Sbesimen Patholeg yng Nghastell-nedd Port Talbot.