Neidio i'r prif gynnwy

Awdioleg

Awdiolegydd yn dal otosgop mewn eicon cyffwrdd clust â llaw.

Diweddarwyd: 16/11/2022

Gwasanaethau awdioleg

Neidio yn syth at wybodaeth am wasanaethau yn ystod Covid.

Neidio yn syth i fanylion cyswllt.

Beth rydyn ni'n ei wneud

Mae awdioleg yn ymwneud ag asesu ac adfer anhwylderau clyw a chydbwysedd.

Mae ein hadran awdioleg yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr i oedolion a phlant   wedi'i leoli mewn nifer o glinigau yn Abertawe a Castell-nedd Port Talbot.

Mae'r adran awdioleg yn gweithio'n agos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Os ydych chi'n poeni y gallai fod gennych chi neu'ch plentyn broblem clyw, rhaid i chi wneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu yn gyntaf.

Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio'n uniongyrchol at awdioleg neu trwy'r adran ENT (clust, trwyn a gwddf).

Gall cleifion sydd eisoes â chymhorthion clyw gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gael mynediad uniongyrchol i'r gwasanaeth awdioleg heb atgyfeiriad gan feddyg teulu. Mae manylion cyswllt ar y dudalen hon isod.

Mae dolenni ar y dudalen hon hefyd i hunangymorth a gwybodaeth ddefnyddiol.

 

COVID-19: Gwybodaeth i gleifion awdioleg

Os ydych yn agored i niwed ac yn dymuno i'r aelod o staff yn eich apwyntiad wisgo mwgwd wyneb, dywedwch wrth yr aelod o staff yn yr apwyntiad. Fel arall, cysylltwch â'r adran cyn yr apwyntiad i drafod eich gofynion.

Cofiwch fod ein llinellau ffôn yn brysur iawn.

Yn ogystal ag apwyntiadau wedi'u trefnu yn ein clinig, efallai y cynigir apwyntiad ffôn neu fideo i chi, neu efallai y gallwch wneud cais am apwyntiad.

Gall methu apwyntiadau arwain at ofal cleifion gwaeth a gwastraffu adnoddau’r GIG.

 

Manylion cyswllt

Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Ffôn: 01639 862276 neu 01639 862667 - Ar agor 8.45am i 12.30pm a 1.30pm i 4.30pm.

E-bost: Audiology.NPT@wales.nhs.uk

Neges destun: 07875 575842

Ysbyty Singleton

Ffôn: 01792 285270 - Ar agor 8.45am i 12.30pm ac 1.30pm i 4.30pm.

E-bost: audiology.singleton@wales.nhs.uk

Neges destun: 07791442214

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.