Masgiau a phellter cymdeithasol: Oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19 yn ein cymunedau, rydym yn annog staff gofal iechyd ac ymwelwyr yn gryf i wisgo gorchudd wyneb ym mhob un o’n lleoliadau, yn enwedig mewn ardaloedd clinigol a’r rhai â nifer uchel o ymwelwyr. Defnyddiwch agwedd synnwyr cyffredin a chyfrifoldeb personol i'n helpu i leihau effaith COVID-19 ar ein cleifion, gweithlu a gwasanaethau. Yn ogystal â gwisgo gorchudd wyneb, mae'n bwysig parhau i gadw pellter cymdeithasol lle bo modd. Diolch am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad parhaus ar yr adeg hon. Rydym yn parhau i adolygu ein cyngor yn rheolaidd yn seiliedig ar fynychder yn ein cymunedau a'n hysbytai.
Bydd y gwasanaeth fflebotomi yn Ysbyty Maes y Bae yn dychwelyd i'w gartref gwreiddiol ym mlaen yr ysbyty o ddydd Llun 6ed Mehefin.
Cyn hynny bu'n rhaid ei symud ar ôl difrodi yn ystod stormydd.
Bellach gellir cael mynediad at y gwasanaeth o flaen yr ysbyty, trwy Ddrws 2.
Peidiwch â mynd i mewn mwyach trwy brif fynedfa'r Ganolfan Brechu Torfol.
RHAID archebu pob apwyntiad ar gyfer profion gwaed ymlaen llaw. Peidiwch â mynychu unrhyw un o'n hadrannau heb apwyntiad gan y cewch eich troi i ffwrdd. Sylwch, mae gan Ysbyty Treforys y nifer lleiaf o slotiau apwyntiad ac felly'r aros hiraf. Mae apwyntiadau cynharach fel arfer ar gael yn Ysbyty Maes y Bae.
Sylwch ar y cyfyngiadau canlynol ar gyfer archebu profion gwaed:
Ni all Treforys, Castell-nedd Port Talbot, Singleton ac Ysbyty Maes y Bae dderbyn archebion ar gyfer cleifion o dan 12 oed.
Ar gyfer plant o dan 12 oed sydd angen gwaed, dylid cysylltu â'r adrannau pediatreg yn uniongyrchol i wneud apwyntiad. Nid yw llinell archebu’r Prawf Gwaed yn archebu apwyntiadau ar gyfer plant dan 12 oed. Gweler y wybodaeth am brofion gwaed plant isod.
Sylwch, ni ellir sefyll y profion canlynol yn Ysbyty Maes y Bae.
Archebwch brawf gwaed yn Treforys, NPTH neu Singleton:
Amonia; Chromogranin; Inswlin a C Peptid; ACTH; Hormonau Gwter; Homocysteine; Gastrin; erythropoietin (EPO)
Rhaid cyflawni'r profion canlynol ar safle penodol:
Quantiferon: Dim ond ar gael yn Singleton, Treforys neu NPTH bore Llun-Iau.
Cryoglobwlinau: Ar gael yn Nhreforys yn unig
Mae gan brofion gwaed, y cyfeirir atynt weithiau fel fflebotomi, ystod eang o ddefnyddiau ac maent yn un o'r mathau mwyaf cyffredin o brofion meddygol.
Gellir defnyddio prawf gwaed i asesu eich cyflwr iechyd cyffredinol, gwirio a oes gennych haint, gweld pa mor dda mae rhai organau fel yr afu a'r arennau yn gweithio a sgrinio am rai cyflyrau genetig.
Rhaid bod gennych ffurflen waed i drefnu eich apwyntiad ar gyfer prawf gwaed
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o archebu yw trwy ddefnyddio'r ddolen i'r dudalen archebu ar-lein.
Os na allwch archebu ar-lein gallwch ffonio 01792 601807, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, rhwng 9am a 4pm.
Gwnewch bob ymdrech i fynd i apwyntiadau prawf gwaed wedi'u harchebu. Rydym yn cadw cofnod o apwyntiadau a gollwyd.