Neidio i'r prif gynnwy

Lles Trwy Waith

Wedi'i leoli yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, mae'r tîm Lles Trwy Waith yn darparu'r Gwasanaeth Cymorth mewn Gwaith ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Ariennir y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n darparu cymorth cyfrinachol am ddim i bobl gyflogedig a hunangyflogedig â phroblemau iechyd sy’n effeithio arnynt yn y gwaith.

Mae'r Gwasanaeth hefyd yn darparu Rhaglenni Iechyd yn y Gweithle am ddim i fusnesau bach a chanolig lleol sydd am gymryd agwedd ragweithiol at hybu a chefnogi iechyd a lles staff.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.