Mae ffisiotherapi yn broffesiwn gofal iechyd. Mae ystod gwaith ffisiotherapi yn eang ac amrywiol iawn. Mae ffisiotherapi cyhyrysgerbydol yn canolbwyntio ar y cyhyrau a'r cymalau, osgo a symudiad ac yn cynnwys gweithio gyda phobl i:
Mae ffisiotherapyddion yn defnyddio eu gwybodaeth am sut mae'r corff yn gweithio a sut mae amodau'r system gyhyrysgerbydol (meinwe meddal, cymalau ac esgyrn) yn effeithio arno i ddyfeisio cynlluniau triniaeth sy'n briodol i gyflwr y claf.
Mae ffisiotherapyddion yn gweithio'n annibynnol ac yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar yr opsiynau triniaeth gorau sydd ar gael i bob claf.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.