Neidio i'r prif gynnwy

Elusen Iechyd Bae Abertawe

Dilynwch y ddolen hon i gyfrannu'n uniongyrchol at Elusen Iechyd Bae Abertawe

Croeso

Cael hwyl, heriwch eich hun, newid bywydau

Elusen Iechyd Bae Abertawe (rhif elusen gofrestredig 1122805) yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Gyda'ch cymorth a'ch cefnogaeth werthfawr, mae'r arian a godir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer offer, hyfforddiant staff, ymchwil a phrosiectau arbennig sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Ganser De Orllewin Cymru, sy’n cefnogi Canolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton.

Mae codi arian yn ffordd werth chweil i’n cefnogwyr tosturiol gymryd rhan ym mha bynnag ffordd y gallant. Mae ein cefnogwyr wedi rhedeg, beicio, dringo mynyddoedd, pobi cacennau i enwi dim ond rhai, a’r cyfan er mwyn codi arian hanfodol i’n bwrdd iechyd. Mae gennym lawer o wahanol ddigwyddiadau a syniadau codi arian i ddewis ohonynt - neu byddwch yn greadigol a breuddwydio am rai eich hun.

Llun o Jiffy yn ei gwisg beicio efo beicwyr arall a pawb yn gwenu. Beth bynnag y byddwch yn dewis ei wneud, byddwch yn codi arian i helpu ymchwil, offer, lles cleifion a staff ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae gan bron bob ward ac adran eu cronfa eu hunain felly os oes gennych chi reswm personol dros fod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl am y gofal rydych chi neu anwylyn wedi’i dderbyn, gallwn sicrhau y bydd yr arian a godwch yn mynd yn uniongyrchol yno.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.