Neidio i'r prif gynnwy

Porth Cleifion Bae Abertawe

Mae Porth Cleifion Bae Abertawe yn gofnod ar-lein sy'n helpu cleifion i reoli eu gofal cyffredinol yn well a helpu i wneud iddynt deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu hiechyd a'u lles. Mae'n caniatáu i gleifion gael gafael ar gopi electronig o'u canlyniadau gwaed a dogfennau clinigol Bae Abertawe. Mae hefyd yn caniatáu i gleifion uwchlwytho unrhyw wybodaeth am eu hiechyd ar gyfer cofnodion eu hunain.

Unwaith y bydd claf wedi ymuno â Phorth Cleifion Bae Abertawe bydd ganddo fynediad at ystod eang o wybodaeth ac adnoddau clinigol i helpu i gefnogi ei iechyd a'i les.

Dywedodd claf dermatoleg sydd wedi ei gofrestru ers sawl blwyddyn “Mae Porth Cleifion Bae Abertawe wedi ei gwneud yn llawer mwy cyfleus i mi. Rydw i'n gallu drefnu popeth ar-lein a chasglu fy meddyginiaeth ar adeg pan nad oes angen i mi defnyddio gwyliau blynyddol o fy swydd i wneud hynny”.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen Polisi Preifatrwydd Porthol Cleifion Bae Abertawe.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.