Neidio i'r prif gynnwy

Sgiliau Maeth am Oes

Sgiliau Maeth am Oes® yw rhaglen Cymru gyfan sydd wedi’i dylunio i arfogi pobl ledled Cymru i gael y sgiliau, y cyfle a’r hyder i gael mynediad at fwyd iach, fforddiadwy a chynaliadwy iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, a’u cymunedau.

Ein rôl yw helpu grwpiau o bobl i gynnal neu wella eu hiechyd trwy'r hyn y maent yn ei fwyta a'i yfed. Rydym yn gwneud hyn drwy fuddsoddi mewn sgiliau personol, darparu addysg ymarferol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar fwyd a maeth a gweithio ar yr un pryd gyda chymunedau i wella mynediad at fwyd iachach.

Ein nod yw gwneud hyn drwy ddarparu hyfforddiant a chefnogi staff iechyd a chymunedol a gwirfoddolwyr i’w harfogi â negeseuon allweddol i’w lledaenu i’r grwpiau y maent yn gweithio gyda nhw, gwella’r ddarpariaeth bwyd a diod mewn lleoliadau cymunedol e.e. gofal plant, ysgolion, a chefnogi cymunedau i oresgyn rhwystrau i gael mynediad at ddiet amrywiol a chytbwys.

Fel rhan o hyn rydym hefyd yn cefnogi ac yn cyflwyno nifer o gyrsiau a mentrau yn y gymuned i'r cyhoedd eu mwynhau. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau hwyliog, anffurfiol, a all gynnwys dysgu mwy am fwyta'n dda, manteision maeth da i iechyd a chreu a pharatoi prydau cytbwys maethlon; helpu pobl i fyw bywydau iachach.

Mae manylion ein holl gyrsiau yn y dolenni isod.

Yn adran Maeth a Dieteteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae gennym dîm bach sy'n cefnogi'r rhaglen hon ar gyfer staff, gwirfoddolwyr a chymuned y bwrdd iechyd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Sgiliau Maeth am Oes® ar SBU.NutritionSkillsforLife@wales.nhs.uk neu parhewch i ddarllen isod.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu nifer o fideos sy'n dangos sut i baratoi rhai prydau a byrbrydau iach cyflym a hawdd, cliciwch yma i'w gwylio.

Ewch yma i ymweld â gwefan allanol Sgiliau Maeth am Oes.

Dilynwch y ddolen hon i weld ein hysbysiad preifatrwydd Sgiliau Maeth am Oes gan yr adran Maeth a Dieteteg.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.