Crëwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (PABM gynt) ar 1 Ebrill, 2019 ar ôl trosglwyddo’r cyfrifoldeb ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae’r bwrdd iechyd yn cwmpasu poblogaeth o tua 390,000 ac mae ganddo gyllideb o tua £1biliwn. Mae’n cyflogi oddeutu 12,500 o staff.
Mae ganddo dri ysbyty mawr yn darparu ystod o wasanaethau, Treforys, Singleton a Castell-nedd Port Talbot ym Maglan, Port Talbot.
Mae gennym hefyd ysbytai cymunedol a chanolfannau adnoddau gofal sylfaenol sy’n darparu gwasanaethau clinigol y tu allan i’r prif ysbytai.
Mae contractwyr annibynnol ym maes gofal sylfaenol yn chwarae rhan hanfodol yng ngofal ein poblogaeth ac mae’r bwrdd iechyd yn comisiynu gwasanaethau gan feddygon teulu, optegwyr, fferyllwyr a deintyddion ar draws yr ardal.
Mae gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn cael eu darparu mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.
Mae’r Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys yn cwmpasu nid yn unig de a chanolbarth Cymru ond De-orllewin Lloegr hefyd. Mae Treforys hefyd yn darparu un o’r ddau wasanaeth llawdriniaeth y galon yng Nghymru.
Mae gwasanaethau arbenigol eraill a ddarparwyd gan y bwrdd iechyd yn cynnwys gwefus a thafod hollt; arennol; ffrwythlondeb a bariatrig (gordewdra).
Darperir gwasanaethau iechyd meddwl fforensig i gymuned ehangach sy’n ymestyn ar draws De Cymru gyfan.
Mae’r bwrdd iechyd yn rhan o’r Cydweithrediad Rhanbarthol dros Iechyd (ARCH) sydd yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe.
Mae ARCH yn brosiect cydweithredu unigryw gyda’r nod o wella iechyd, cyfoeth a lles De-orllewin Cymru.
Cadeirydd: Emma Woollett.
Prif Weithredwr (CEO): Mark Hackett
Prif Swyddog Gweithredol: Inese Robotham
Cyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad Cleifion dros dro: Gareth Howells
Cyfarwyddwr Cyllid: Darren Griffiths
Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol: Richard Evans
Cyfarwyddwr Strategaeth: Sian Harrop-Griffiths
Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus: Keith Reid
Cyfarwyddwr y Gweithlu ac Datblygu Sefydliadol: Debbie Eyitayo
Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd: Christine Morrell
Cyfarwyddwr Digidol: Matt John
Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dros Dro: Nick Samuels
Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol dros dro ac Ysgrifennydd y Bwrdd: Hazel Lloyd
Aelodau Annibyniol
Stephen Spill
Jackie Davies
Maggie Berry
Tom Crick
Reena Owen
Nuria Zolle
Keith Lloyd
Patricia Price
Andrew Jarrett
Judith Vincent
Andrew Griffiths
Cyfarwyddwr: Brian Owens
Cyfarwyddwr nyrsio dros dro: Tanya Spriggs
Cyfarwyddwr Meddygol: Anjula Mehta
Cyfarwyddwr Deintyddol: Karl Bishop
Cyfarwyddwr: Dai Roberts
Cyfarwyddwr Nyrsio: Stephen Jones
Cyfarwyddwr Meddygol: Richard Maggs
Cyfarwyddwr Dros Dro: Kate Hannam
Cyfarwyddwr Nyrsio: Ceri Matthews
Cyfarwyddwr Meddygol: Mark Ramsey
Cyfarwyddyr: Jan Worthing
Cyfarwyddwr Nyrsio: Lesley Jenkins
Cyfarwyddwr Meddygol: Mr Dougie Russell
Cyfarwyddwr: Jan Worthing
Cyfarwyddwr Nyrsio: Lesley Jenkins
Cyfarwyddwr Meddygol: Dr Martin Bevan
Lleolir ein Pencadlys yn y cyfeiriad canlynol:
Pencadlys Bae Abertawe
1 Porth Talbot,
Parc Ynni Baglan,
Baglan,
Port Talbot,
SA12 7BR