Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Hygyrchedd

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydyn eisiau gynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • chwyddo hyd at 200% heb i'r testun arllwys oddi wrth y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver.

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan wefan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Gellir cyrchu gwefan AbilityNet, sydd ag adnoddau ar-lein rhad ac am ddim i wneud y byd digidol yn fwy hygyrch, trwy ddilyn y ddolen hon.

 

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Mae rhai tudalennau'n cynnwys penawdau nad ydynt wedi'u trefnu'n rhesymegol.
  • Mae gan rai tudalennau drefn ffocws afresymegol.
  • Efallai na fydd gan rai delweddau ddisgrifiad testun amgen.
  • Nid oes gan rai dolenni ddisgrifiadau hygyrch.
  • Mae papurau'r bwrdd a phwyllgorau, dogfennau allweddol eraill ac ymatebion i geisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth a lanlwythwyd cyn 28ain Medi, 2023, yn annhebygol o fod mewn fformat sy'n hygyrch i dechnolegau cynorthwyol megis darllenwyr sgrin. I wneud cais am gopïau hygyrch o bapurau bwrdd a phwyllgorau a dogfennau allweddol eraill e-bostiwch sbu.boardservices@wales.nhs.uk

Ewch i'n tudalen asesu baich anghymesur am ragor o fanylion.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.

Ewch i'r dudalen hon a llenwch ein ffurflen adborth os oes angen i chi roi gwybod am unrhyw broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gallwn ei gwella.

Gallwch hefyd anfon e-bost at: communications.department@wales.nhs.uk

 

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Ewch i’r dudalen hon i gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) os nad ydych yn hapus â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.