Neidio i'r prif gynnwy

Ffiseg MRI

Ynghylch

Yn yr adran hon fe welwch wybodaeth am y grŵp Ffiseg MRI, sy'n rhan o'r Adran Ffiseg Feddygol a Pheirianneg Glinigol.

 

Beth yw MRI?

Mae delweddu cyseiniant magnetig (MRI) yn ein galluogi i weld y tu mewn i'ch corff heb fynd i mewn i'r corff mewn gwirionedd.

Mae'r sganiwr MRI yn defnyddio meysydd magnetig cryf a thonnau radio i gynhyrchu'r lluniau manwl y gellir eu defnyddio i helpu i ddarganfod neu wneud diagnosis o'r hyn sydd o'i le, cynllunio triniaeth ar gyfer unrhyw gyflyrau a gwirio pa mor dda y mae triniaethau blaenorol wedi gweithio.

Os oes angen sgan MRI arnoch gofynnir i chi orwedd ar wely - naill ai'ch traed yn gyntaf neu'ch pen yn gyntaf yn dibynnu ar ba ran o'ch corff sy'n cael ei sganio - a bydd y gwely'n symud y tu mewn i'r sganiwr, sydd fel tiwb mawr.

Mae'r sganiwr gallu fod yn swnllyd, byddwch yn cael plygiau clust neu glustffonau i'w gwisgo ac efallai y byddwch yn gallu gwrando ar gerddoriaeth.

Mae'n bwysig iawn cadw mor llonydd â phosibl yn ystod y sgan, sy'n para 15 i 90 munud.

Ewch i wefan 111 Cymru i ddarganfod mwy am yr hyn sy'n digwydd cyn, yn ystod ac ar ôl sgan MRI.

 

Beth mae Ffiseg MRI yn ei wneud?

Mae ein rôl yn amrywiol. Rydym yn cynghori ar ddiogelwch sganiau MRI, yn sicrhau bod y sganwyr MRI yn cynhyrchu delweddau o ansawdd uchel, yn addysgu myfyrwyr ac yn hyfforddi grwpiau staff eraill gan gynnwys radiograffwyr a radiolegwyr. Rydym hefyd yn ymchwilwyr gweithredol sy'n anelu at gyflwyno technegau sganio newydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.