Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Therapi Lleferydd ac Iaith - trosolwg

Mae ein tîm Therapi Lleferydd ac Iaith yn cynnwys Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Cynorthwywyr a Gweinyddwyr.

Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith (SLTs) yn weithwyr iechyd proffesiynol perthynol. Rydym wedi cael ein hyfforddi i asesu, gwneud diagnosis, trin a chynghori pobl sy'n cael anawsterau gyda lleferydd, iaith a chyfathrebu, neu ag anhwylderau bwyta, yfed a llyncu.

Rydym yn gweithio gydag oedolion, plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr, yn ogystal ag ystod o weithwyr proffesiynol eraill ar draws y sector Iechyd, Addysg, Gofal Cymdeithasol a'r Gwirfoddol.

Ble mae'r tîm Therapi Lleferydd ac Iaith yn gweithio?

Mae'r tîm Therapi Lleferydd ac Iaith yn gallu darparu apwyntiadau rhithwir a hefyd gweithio yn y lleoliadau canlynol:

  • Cylchoedd chwarae a meithrinfeydd.
  • Ysgolion prif ffrwd cynradd ac uwchradd
  • Ysgolion Arbennig
  • Canolfannau datblygiad plant
  • Canolfannau iechyd cymunedol
  • Ysbytai
  • Unedau adsefydlu
  • Cartrefi nyrsio a phreswyl
  • Cartrefi cleient ei hun

Pa feysydd y gall y tîm Therapi Lleferydd ac Iaith helpu gyda nhw?

  • Anghenion Datblygiadol Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
  • Namau ac Anhwylderau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Penodol.
  • Anawsterau bwyta, yfed a llyncu (Dysffagia)
  • Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Caffael a Blaengar
  • Stammering
  • Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol / Rhyngweithio
  • Anhwylderau Llais
  • Cefnogaeth llais a chyfathrebu traws a rhyw amrywiol
  • Anghenion Cyfathrebu Ychwanegol ac Amgen (cymhorthion cyfathrebu)

Manylion cyswllt:

Pennaeth Therapi Lleferydd ac Iaith: Jo Bradburn

Am ragor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â ni:

Gwasanaethau Therapi Lleferydd ac Iaith Plant; Ffôn: 01792 517863 neu 01639 862718

Gwasanaethau Therapi Lleferydd ac Iaith Oedolion; Ffôn: 01792 703855 neu 01792 703766

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.