Gwybodaeth Pwysig:
Ni all yr Uned Mân Anafiadau ymdrin â chleifion â symptomau Covid-19, neu unrhyw salwch arall, trawiad ar y galon a amheuir neu strôc.
I gael gwybodaeth am y Coronafeirws, ewch i'n hadran gwefan bwrpasol.
Os oes angen i chi fynychu'r Uned Mân Anafiadau, ewch yno ar eich pen eich hun er eich diogelwch chi a diogelwch eraill. Os yw'r claf yn blentyn neu'n agored i niwed, sicrhewch mai dim ond un person sydd gyda nhw.
Diolch.
Gwybodaeth am yr Uned Mân Anafiadau
Gall oedolion a phlant dros un blwydd oed sydd wedi cael damwain yn yr wythnosau diwethaf i'w gweld yn Uned Mân Anafiadau Ysbyty Castell-nedd Port Talbot .
Mae ar agor rhwng 7.30am ac 11.00pm, saith diwrnod yr wythnos, yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, Ffordd Baglan, Port Talbot, SA12 7BX. Rhif cyswllt: 01639 862160
Dod ar drafnidiaeth gyhoeddus? - Cynlluniwch eich taith yma
Mae tîm profiadol o ymarferwyr nyrsio brys sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, nyrsys brysbennu a gweithwyr cymorth gofal iechyd yn trin cleifion am fân gyflyrau gan gynnwys:
- toriadau a mân losgiadau
- ysigiadau a straeniau
- esgyrn wedi torri
- datgymalu'r ysgwydd, bysedd a bysedd traed
- anafiadau i'r pen a'r wyneb heb golli ymwybyddiaeth ac nid yw'r claf yn cymryd meddyginiaeth gwrthgeulydd (teneuwr gwaed).
- anafiadau i'r gwddf, lle rydych chi'n symudol heb unrhyw binnau na nodwyddau yn eich breichiau
- anafiadau cefn lle rydych chi'n symudol ac nid yw'r boen wedi digwydd wrth i chi droi'ch cefn neu godi rhywbeth
- cyrff tramor i lygaid, clustiau a thrwyn
- anafiadau llygaid a chlust nad ydynt yn treiddio
- anafiadau i'r asennau lle nad ydych chi'n pesychu gwaed ac nad oes gennych haint ar y frest
- brathiadau (pryfed, anifail neu ddynol)
- pigiadau pryfed
- ymosodiadau.
NI ALL y tîm trin:
- poen yn y frest
- strôc
- annwyd, peswch, dolur gwddf, echeara, brechau, tymereddau
- heintiau wrinol, systitis neu broblemau cathetr
- problemau deintyddol
- damwain gydag anaf i abdomen / stumog
- problemau anadlu
- coesau, cymalau neu gefnau poenus
- cwynion croen gan gynnwys cornwyd a brechau
- clwyfau na chawsant eu hachosi yn ystod damwain.