Sylwch ar y cyfyngiadau canlynol ar gyfer archebu profion gwaed:
Ar gyfer plant dan 12 oed sydd angen prawf gwaed, dylid cysylltu â'r adran bediatrig yn uniongyrchol i wneud apwyntiad. Nid yw'r llinell archebu prawf gwaed yn trefnu apwyntiadau i rai dan 12 oed ac ni ellir archebu'r rhain drwy'r system archebu ar-lein yn unrhyw un o'r safleoedd. Gweler gwybodaeth am brofion gwaed plant yn yr adran Cwestiynau Cyffredin isod.
Rhaid cyflawni'r profion canlynol ar safle penodol:
Quantiferon: Dim ond ar gael yn Singleton, Treforys neu NPTH bore Llun-Iau.
Cryoglobwlinau: Ar gael yn Nhreforys yn unig
Profion gwaed, cyfeirir atynt yn glinigol fel fflebotomi, ystod eang o ddefnyddiau ac maent yn un o'r mathau mwyaf cyffredin o brofion meddygol.
Gellir defnyddio prawf gwaed i asesu eich cyflwr iechyd cyffredinol, gwirio a oes gennych haint, gweld pa mor dda mae rhai organau fel yr afu a'r arennau yn gweithio a sgrinio am rai cyflyrau genetig.
Rhaid bod gennych ffurflen waed i drefnu eich apwyntiad ar gyfer prawf gwaed
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o archebu yw trwy ddefnyddio'r ddolen i'r dudalen archebu ar-lein.
Os na allwch archebu ar-lein gallwch ffonio 01792 601807, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, rhwng 9yb a 4yp.
Gwnewch bob ymdrech i fynd i apwyntiadau prawf gwaed wedi'u harchebu. Rydym yn cadw cofnod o apwyntiadau a gollwyd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.