Mae ein tîm Therapi Lleferydd ac Iaith yn cynnwys Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Cynorthwywyr a Gweinyddwyr.
Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith (SLTs) yn weithwyr iechyd proffesiynol perthynol. Rydym wedi cael ein hyfforddi i asesu, gwneud diagnosis, trin a chynghori pobl sy'n cael anawsterau gyda lleferydd, iaith a chyfathrebu, neu ag anhwylderau bwyta, yfed a llyncu.
Rydym yn gweithio gydag oedolion, plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr, yn ogystal ag ystod o weithwyr proffesiynol eraill ar draws y sector Iechyd, Addysg, Gofal Cymdeithasol a'r Gwirfoddol.
Mae'r tîm Therapi Lleferydd ac Iaith yn gallu darparu apwyntiadau rhithwir a hefyd gweithio yn y lleoliadau canlynol:
Pennaeth Therapi Lleferydd ac Iaith: Jo Bradburn
Am ragor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â ni:
Gwasanaethau Therapi Lleferydd ac Iaith Plant; Ffôn: 01792 517863 neu 01639 862718
Gwasanaethau Therapi Lleferydd ac Iaith Oedolion; Ffôn: 01792 703855 neu 01792 703766
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.