Rydym yn darparu gwasanaeth gydol oes arbenigol i gleifion pediatrig ac oedlion yn ne-orllewin Cymru sydd â diagnosis o brin gyflyrau gwanhau cyhyrau a chyflyrau gwastraffu cyhyrau blaengar. Mae hwn yn cynnwys cyflyrau niwrogyhyrol fel dystroffi’r cyhyrau, clefyd Charcot-Marie-Tooth a chlefyd metabolig ymhlith y lleill.
Rydym yn cefnogi ein cleifion, yn darparu cyngor ac addysg i weithwyr iechyd proffesiynol eraill, ac yn hyrwyddo hunanreolaeth cleifion. Rydym hefyd yn trefnu diwrnodau addysg cleifion ac yn cynghori gweithwyr gofal iechyd proffesiynol lleol ar sut i gefnogi ein cleifion.
Mae'r Gwasanaeth Niwrogyhyrol yn cynnwys cynghorydd gofal niwrogyhyrol, ffisiotherapydd arbenigol niwrogyhyrol, cymorth gweinyddol ac ymgynghorydd meddygol. Derbyniwn atgyfeiriadau trwy niwrolegydd, meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.
Ein manylion cyswllt
Rhif ffôn: 01792 545753
E-bost: SBU.NeuromuscularServiceSWW@wales.nhs.uk
Cyfeiriad: Gwasanaeth Niwrogyhyrol De-Orllewin Cymru
Llawr 3A CAB
Ysbyty Treforys
Abertawe
SA6 6NL
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.