Mae yna lawer o bethau y bydd angen i chi eu gwneud yn ystod y dyddiau a'r wythnosau yn dilyn marwolaeth eich perthynas neu ffrind, a nod y wefan hon yw eich tywys a'ch helpu i lywio trwy'r cyfnodau anodd hyn.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae gennym wasanaeth Gofal Ar ôl Marwolaeth pwrpasol, ac mae'r tîm wrth law i'ch cefnogi gyda phob mater ymarferol, fel ardystio marwolaeth, a gallant hefyd eich helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir yn ystod eich profedigaeth os ydych chi'n teimlo bod ei hangen arnoch chi.
Mae'r tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth ar gael i gysylltu â nhw 6 diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00yb i 5.30yp, a dydd Sadwrn 9.00yb i 12.00yp.
Gellir cysylltu â'r tîm dros y ffôn ar 01792 703114.
Neu drwy e-bost: SBU.CADC@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.