Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Gwasanaethau Iechyd Rhywiol – Ymgysylltu â Chleifion

Mae Gwasanaeth Iechyd Rhywiol Bae Abertawe yn cynnig atal cenhedlu (atal beichiogrwydd), profi a thriniaeth ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STI), a chymorth a chwnsela. Mae'r gwasanaethau hyn am ddim ac ar gael i bawb ac mae'r gwasanaethau yn gyfrinachol.

Gallwch gael:

  • gwybodaeth a darpariaeth o fathau atal cenhedlu gwahanol
  • atal cenedlu brys, pilsen a thorch
  • Cymorth ar Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol a sut i ddiogelu'ch hun
  • Proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP)
  • Proffylacsis ôl-gysylltiad (PEP)
  • brechiadau proffylacsis i ddynion sy'n cael rhyw gyda dynion, hepatitis A, B, firws papiloma dynol (HPV), brechiad y frech wen i ddiogelu yn erbyn brech y mwncïod
  • profi a thriniaeth ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STI) a HIV
  • Cymorth ar ôl drais rhywiol
  • gwasanaethau cynghori ar feichiogrwydd (therfynu)
  • cwnsela ar gyfer problemau rhywiol (cwnsela seicorywiol)

Byddwn yn edrych ar sut rydym yn darparu Gwasanaethau Iechyd Rhywiol yn y dyfodol ar gyfer ein cleifion a hoffwn ddeall

  • A yw ein gwasanaethau yn hawdd cyrraedd/cyrchu?
  • Sut allwn ni wella ein gwasanaethau yn y dyfodol?

Mae'n bwysig ein bod ni'n deall sut mae ein gwasanaethau o safbwynt claf.

Bydd Ymgysylltu â Chleifion yn digwydd o ddydd Gwener, 25 Awst, 2023 i ddydd Gwener, 6 Hydref, 2023.

Dilynwch y ddolen hon i fersiwn dogfen Word o'r wybodaeth a ddarparwyd uchod am yr Adolygiad o Wasanaethau Iechyd Rhywiol – Ymgysylltu â Chleifion.

Dilynwch y ddolen hon i’n tudalen Gwasanaethau Iechyd Rhywiol i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth.

Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgysylltu â chleifion, gallwch ddilyn y ddolen hon i lenwi'r holiadur ar Microsoft Forms.

Neu gallwch sganio'r cod QR isod:

Cod QR ar gyfer yr Adolygiad o Wasanaethau Iechyd Rhywiol – holiadur Ymgysylltu â Chleifion.

Diolch am gymryd yr amser i gwblhau'r holiadur hwn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.