Capsiwn: Y cerddor a'r darlledwr Mal Pope, gyda'i ŵyr Gulliver. Mae Mal yn cefnogi ein hymgyrch Cwtsh Clos er cof am Gulliver. Darllenwch fwy am stori Mal yma.
Mae cael babi cynamserol neu sâl iawn yn yr ysbyty yn amser llawn straen i rieni – ac mae bod gyda nhw gymaint â phosibl yn hynod bwysig.
Mae ein Huned Gofal Dwys Newyddenedigol (NICU) yn Ysbyty Singleton, Abertawe, yn gofalu am bron i 500 o fabanod y flwyddyn. Daw teuluoedd yma o bob rhan o dde Cymru, nid Bae Abertawe yn unig, gyda llawer yn byw oriau i ffwrdd mewn car a hyd yn oed yn hirach ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Fodd bynnag, mae gennym bum tŷ dwy ystafell wely ar dir yr ysbyty - Cwtsh Clos - lle gall teuluoedd aros i fod yn agos at eu babi neu eu babanod, yn hytrach na wynebu teithiau hir a dirdynnol yn ôl ac ymlaen.
Wedi’u defnyddio’n helaeth dros y blynyddoedd, mae’r pum tŷ bellach mewn gwir angen gweddnewidiad – yn enwedig eu tu fewn – er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau i gynnig cartref-o-gartref cynnes a chroesawgar i rieni yn ystod y cyfnod llawn straen hwn, a rhoi i’r teuluoedd hyn y profiad gorau posibl wrth iddynt fondio a helpu i ofalu am eu babanod newydd agored i niwed.
Mae angen codi cyfanswm o £160,000 i uwchraddio Cwtsh Close. Gallwch chi helpu? Bydd eich rhoddion wir yn cyfrif!
Ewch yma i ddarganfod sut y gallwch chi gyfrannu
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.