Am ddim ac yn gyfrinachol:
Gellir dod o hyd i wybodaeth am STIs ac atalwyr cenhedlu ar waelod y dudalen.
Bydd y llinell gymorth ar gau ddydd Gwener 21 Hydref ar gyfer hyfforddiant staff. Am unrhyw faterion brys yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu neu 111.
O ddydd Llun 22ain Awst bydd oriau agor ein llinell gymorth yn newid. Gweler amseroedd newydd isod:
Dydd Llun - Dydd Iau: 8am - 3pm
Dydd Gwener: 8am – 1pm
Sylwch, bydd y llinell ar gau 12.30 - 13.00 bob dydd ar gyfer cinio, a thrwy'r dydd ar wyliau banc.
Gall cleifion gysylltu â ni hefyd drwy SBU.SexualHealth@wales.nhs.uk
Bellach gellir gwneud apwyntiadau trwy'r rhif llinell gymorth ar gyfer mewnosod coil a symud/cyfnewid mewnblaniadau.
Os oes angen cyngor rhyw diogel arnoch, gwybodaeth atal cenhedlu neu brawf ar gyfer haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI), mae ein tîm o staff arbenigol wrth law i ddelio â'ch ymholiad yn gyfrinachol. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn eich trafod yn rheolaidd gydag unrhyw un arall, gan gynnwys y Meddyg Teulu neu wasanaethau ysbyty eraill. Oni bai ein bod ni'n teimlo bod risg o niwed i chi neu rywun arall, mae popeth y trafodwn a gwnawn gennym yn hollol gyfrinachol, hyd yn oed os ydych o fan 16 oed mae gennych chi'r un hawliau.
Efallai y bydd adegau pan fydd angen i ni siarad â chi am driniaeth felly gadewch i ni wybod y ffordd orau o gysylltu â chi. Mae rhif ffôn symudol yn iawn ond sicrhewch eich bod chi'n rhoi gwybod i staff am unrhyw newidiadau i'ch rhif ffôn neu'ch cyfeiriad.
Weithiau gallwn ni newid amserau agor y clinig a'r gwasanaethau sydd ar gael ar ddiwrnod penodol. Ffoniwch ni yn gyntaf i wirio, rhag ofn. A byddwn yn cau'r clinig os bydd llawer o gleifion yn dal i aros i gael eu gweld pan fyddwn yn cau.
Isod mae dolenni i ddau wasanaeth newydd sy'n cynnig cefnogaeth ffôn i bobl ifanc Castell Nedd Port Talbot yn ystod y broses cloi-lawr.
Mae tîm o Gynghorwyr RADS ac Ymarferwyr Ieuenctid yn ymateb i unrhyw alwadau gan bobl ifanc leol ac yn eu cefnogi neu eu cyfeirio yn ôl yr angen.
Ymwadiad: Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys trydydd parti.