Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwiliad Covid-19 - Dweud eich dweud!

Delwedd o fegaffon gyda

Ymchwiliad Covid-19

Sefydlwyd Ymchwiliad Covid-19 y DU i archwilio parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

Bydd profiadau pobl yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu'n briodol ac yn drylwyr yn yr ymchwiliad. Bydd tîm yr ymchwiliad hefyd yn craffu ar y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni (Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru) siarad â phobl am eu profiadau yn ystod y pandemig a chasglu adborth gan y cyhoedd yng Nghymru. Caiff y wybodaeth hon ei bwydo i'r ymchwiliad. Rydym yn gwneud hyn mewn llawer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys yr arolwg hwn.

Ynglŷn â'r arolwg hwn

Ers i'r pandemig coronafeirws ddechrau mae llawer wedi newid i ni i gyd. Rhannwch eich adborth am eich profiad o bandemig y coronafeirws. Gallai hyn fod yn ymwneud ag unrhyw agwedd yr effeithiwyd ar eich bywyd, neu fywydau'r rhai yr ydych yn poeni amdanynt. Er enghraifft, gallai fod yn ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol, addysg, gwaith, cartref, arian, cymorth, eich bywyd teuluol neu fywyd cymdeithasol.

Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth. Byddwn yn rhannu'r hyn a ddywedwch wrthym yn uniongyrchol gydag Ymchwiliad y DU. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r hyn a glywn gyda'r GIG, Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a all gymryd camau i wneud newidiadau lle mae angen hynny.

Bydd eich barn a'ch profiadau yn eu helpu i weld beth mae pobl yn meddwl sydd wedi gweithio'n dda a chymryd camau i ddysgu o'r pethau nad oeddent wedi mynd mor dda.

Rhannwch eich profiadau gyda ni:

Gallwch rannu eich profiadau trwy ddilyn y ddolen hon i'r arolwg.

Trwy sganio'r cod QR gyda'ch ffôn smart neu ddyfais symudol:

Delwedd o god QR.

Trwy ffonio neu anfon e-bost atom i ofyn am gopi caled o'r arolwg (amlen â stamp a'ch cyfeiriad arni er hwylustod i'w dychwelyd):

*Diwallu anghenion unigol - Gallwn hefyd gwblhau'r arolwg ar eich rhan tra byddwch yn siarad â ni am eich profiad dros y ffôn*

Fersiynau Amgen

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.