Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Wedi'i Gynllunio - Arolwg Cleifion Apwyntiadau Cleifion Allanol

Logo ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe.

Mae ein harolwg yn rhoi cyfle i chi, y claf, roi adborth am eich apwyntiad claf allanol diweddaraf.

Bydd yr adborth a rannwch yn helpu'r GIG i wella gwasanaethau iechyd lleol i bobl fel chi a'ch teulu.

O ganlyniad i newidiadau a wnaed i’r ffordd y mae cleifion yn cael mynediad at wasanaethau yn yr ysbyty, mewn ymateb i bandemig Covid-19, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn clywed am eich profiadau.

Y Cynghorau Iechyd Cymuned yw cyrff gwarchod annibynnol gwasanaethau’r GIG ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru. Rydym yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau GIG.

Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol. Mae'r hyn a ddywedwch wrthym yn gyfrinachol.

Mae arolygon ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac rydym yn croesawu cyswllt yn y naill iaith neu’r llall.

Gallwch rannu eich barn drwy ein Harolwg Ar-lein drwy ddilyn y ddolen hon.

Neu sganiwch y cod QR isod gyda'ch ffôn clyfar neu ddyfais symudol:

Delwedd o god QR ar gyfer yr arolwg cleifion apwyntiadau cleifion allanol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.