Ers i bandemig COVID-19 ddechrau mae llawer wedi newid i ni i gyd. Mae gwasanaethau'r GIG hefyd wedi gorfod addasu i gynnwys arferion a ffyrdd newydd o weithio.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiad GIG, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG yn dod ymlaen.
Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Byddwn yn rhannu eich barn gyda'r GIG i helpu i roi gwybod iddynt am yr hyn y mae pobl a chymunedau lleol yn ei ddweud wrthym.
Gallwch rannu eich barn drwy ddilyn y ddolen hon i'r arolwg.
Gallwch ein ffonio neu anfon e-bost atom i ofyn am gopi caled o’r arolwg (amlen â chyfeiriad â stamp wedi’i chynnwys er hwylustod):
*Diwallu anghenion unigol - Gallwn hefyd gwblhau'r arolwg ar eich rhan tra byddwch yn siarad â ni am eich profiad dros y ffôn*
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.