Neidio i'r prif gynnwy

Gadewch i ni drafod dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Sgwrs gyda'r Cyhoedd

Trafodwch ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Beth sy'n gweithio'n dda?

Beth sydd angen ei newid?

Sut gall pethau wella?

Ymunwch â ni Ddydd Mawrth 24 Hydref 2023 10:30yb-13:00yp yng Ngwesty'r Village, Abertawe i ddweud eich dweud.

Bydd y digwyddiadau yn cael eu cyflwyno gan Gomisiwn Bevan, melin drafod iechyd a gofal mwyaf blaenllaw Cymru. Yn ystod y digwyddiadau hyn, byddwn yn siarad am yr heriau y mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, a’ch meddyliau ar sut y gellir au gwella.

Bydd Comisiwn Bevan yn defnyddio eich safbwyntiau a syniadau o’r trafodaethau hyn er mwyn cynhyrchu adroddiad cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag adroddiad lleol ar gyfer pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru, gan argymell mewidiadau. Mae Comisiwn Bevan yn llais annibynnol y gellir ymddiried ynddo yng Nghymru, a bydd yr adroddiad hwn yn dylanwadu ar sut gaiff penderfyniadau eu gwneud.

Mae croeso i bawb yn y digwyddiad anffurfiol, rhyngweithiol hwn, gan gynnwys y rheiny sydd yn gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd lluniaeth ar gael.

Ewch yma i archebu eich lle ar wefan Eventbrite. Fel arall, ffoniwch 01792 604630, neu e-bostiwch bevan-commission@swansea.ac.uk.

Os na allwch ymuno â’r digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan yn ein digwyddiad sgwrsio ar-lein cenedlaethol ar 7 Tachwedd 2023.

Ewch yma i archebu eich lle yn y digwyddiad sgwrsio ar-lein cenedlaethol ar wefan Eventbrite.

Fel arall, ffoniwch 01792 604630 neu e-bostiwch bevan-commission@swansea.ac.uk.

Sylwch fod y dolenni ar y dudalen hon yn cael eu cynhyrchu gan drydydd parti yn Saesneg yn unig.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.