Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Cleifion y Gwasanaeth Ambiwlans

Logo ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe.

Mae ein harolwg yn rhoi cyfle i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd roi adborth am eu profiad diweddar gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).

Bydd yr adborth a rannwch yn helpu'r GIG i wella gwasanaethau iechyd lleol i bobl fel chi a'ch teulu.

Y Cynghorau Iechyd Cymuned yw cyrff gwarchod annibynnol gwasanaethau’r GIG ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru. Rydym yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau GIG.

Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol. Mae'r hyn a ddywedwch wrthym yn gyfrinachol.

Mae arolygon ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac rydym yn croesawu cyswllt yn y naill iaith neu’r llall.

Gallwch rannu eich barn drwy ein Harolwg Ar-lein drwy ddilyn y ddolen hon.

Neu sganiwch y cod QR isod gyda'ch ffôn clyfar neu ddyfais symudol:

Delwedd o god QR ar gyfer Arolwg Cleifion y Gwasanaeth Ambiwlans.

Fel arall, gweler adran 10 yr arolwg am ffyrdd eraill y gallwch rannu eich adborth.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.