Neidio i'r prif gynnwy

Clystyrau - gweithio gyda'n gilydd er mwyn gadw chi'n iach

Map o holl glystyrau Bae Abertawe

Beth yw Cydweithrediaeth Clwstwr Lleol (CCLl)?

O fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe mae wyth CCLl.

Mae ein clystyrau yn cynnwys grwpiau o feddygfeydd, deintyddion, fferyllfeydd cymunedol, optegwyr lleol, nyrsys cymunedol, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Maent yn gweithio gyda'i gilydd i gronni adnoddau a rhannu arfer gorau mewn ymgais i'ch helpu i gadw'n heini ac yn iach, ac i wella'r ffordd rydych chi'n derbyn gofal os byddwch chi'n mynd yn sâl.

Lle bynnag y bo'n bosibl, bydd y clwstwr yn ceisio cyflawni hyn yng nghalon eich cymuned, gan eich atal rhag gorfod teithio i ysbytai neu glinigau canolog.

Beth maen nhw'n ei wneud?

Mae gweithwyr proffesiynol o feddygfeydd, practisau deintyddol, fferyllfeydd cymunedol, optegwyr lleol, nyrsys cymunedol, a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol ym mhob clwstwr yn gweithio gyda'i gilydd i nodi anghenion y boblogaeth yn ei ardal.

Yna maent yn dyfeisio cynllun tair blynedd i ddiwallu'r anghenion hynny sy'n canolbwyntio ar feysydd, fel:

  • Gwella iechyd y boblogaeth, e.e. helpu pobl i golli pwysau neu roi'r gorau i ysmygu.
  • Dyfeisio a chydlynu gwasanaethau ar gyfer y rhai sydd ag anghenion cymhleth.
  • Gwella iechyd meddwl a lles, e.e. trwy fentrau fel rhagnodi cymdeithasol neu ddarparu cwnsela.
  • Treialu ffyrdd newydd o weithio drwy ddatblygu gwasanaethau neu dimau clystyrau sy'n gallu darparu gwasanaethau yn agos at y cartref, fel y gwasanaeth awdioleg gofal sylfaenol.

Mae Grŵp Cynllunio Clwstwr Pan yn goruchwylio ac yn cydlynu gwaith y clystyrau.

Mae'r grŵp yn cynnwys partneriaid o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, Llais (a elwid gynt yn Gyngor Iechyd Cymuned), awdurdodau lleol a'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae gan bob un o'r clystyrau dudalen we ei hun (ar gael ar ochr chwith y dudalen hon) lle cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a'r prosiectau y maent yn gweithio arnynt ar hyn o bryd.

Mae ganddynt hefyd eu tudalennau Facebook eu hunain lle gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu newyddion a'u cyhoeddiadau diweddaraf.

Ein clystyrau

Mae wyth CCLl yn rhanbarth Bae Abertawe. Maent yn:

Afan – sy'n gwasanaethu poblogaeth o 50,845.

Iechyd y Bae – sy'n gwasanaethu poblogaeth o 75,221.

Iechyd y Ddinas – sy'n gwasanaethu poblogaeth o 54,806.

Cwmtawe - sy'n gwasanaethu poblogaeth o 42,680.

Llwchwr – sy'n gwasanaethu poblogaeth o 49,075.

Castell-nedd – sy'n gwasanaethu poblogaeth o 56,500.

Penderi – sy'n gwasanaethu poblogaeth o 37,443.

Cymoedd Uchaf – sy'n gwasanaethu poblogaeth o 32,138.

Ym mha glwstwr ydych chi'n perthyn? Dyma'r manylion ar gyfer yr wyth clwstwr ym Mae Abertawe:

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Steve Newman, Prif Reolwr Prosiect Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol: Steve.Newman@wales.nhs.uk

Christie Bannon, Uwch Swyddog Cyfathrebu: Christie.Bannon@wales.nhs.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.