Neidio i'r prif gynnwy

Clwstwr Llwchwr

Logo ar gyfer Clwstwr Llwchwr

Mae Clwstwr Llwchwr yn grŵp o chwe meddygfa: Practis Grŵp yr Aber (gan gynnwys Canolfan Feddygol Tregŵyr, Canolfan Iechyd Penclawdd a Meddygfa Penybryn), Meddygfa Stryd y Dywysoges, Meddygfa Talybont a Meddygfa Tŷ’r Felin.

Mae'n darparu gofal i boblogaeth o tua 49,075 yn ardaloedd Pontarddulais, Gorseinon, Tre-gŵyr a Phenclawdd yn Abertawe.

Yn ogystal â hyn, mae’r Clwstwr hefyd yn cynnwys pedwar optegydd, saith practis deintyddol, 10 fferyllfa a thri chartref nyrsio.

Y fferyllfeydd o fewn y clwstwr yw: Allied Pharmacy (Pontarddulais), Fferyllfa Gorseinon, Fferyllfa Tregŵyr, Fferyllfa Medihub (Pontarddulais), Fferyllfa Penclawdd, Fferyllfa Ty’r Felin, Fferyllfa’r Pentref, Fferyllfa’r Ffynnon (2 Heol Alexandra), Fferyllfa’r Ffynnon (63 Alexandra Road) a Well Pharmacy (Tre-gŵyr).

Y practisau deintyddol o fewn y clwstwr yw: Gofal Deintyddol Tŷ Cilgerran, Ymgynghoriaeth Practis y Ddraig (Teilo Sant), Practis Deintyddol Gorseinon, Practis Deintyddol Tregŵyr, MyDentist Heol Alexandra, Practis Deintyddol Penclawdd a Phractis Deintyddol West Coast.

Yr optegwyr o fewn y clwstwr yw: Evans & Hughes (Pontarddulais), Canolfan Llygaid Gorseinon, Optegwyr Gŵyr (Penclawdd) a Specsavers Gorseinon.

Arweinydd y Clwstwr yw Dr James Kerrigan.

Dilynwch y ddolen hon i dudalen Facebook Clwstwr Llwchwr lle gallwch ddod o hyd i ddiweddariadau, cyhoeddiadau, straeon newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau cymunedol diweddaraf.

Dewch o hyd i gefnogaeth a gwasanaethau y gallwch gael mynediad iddynt yn eich Clwstwr:

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.