Neidio i'r prif gynnwy

tidyMinds a chefnogaeth arall i bobl ifanc

tidyMinds

tidyMinds yw Gwefan iechyd meddwl a lles i bobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

Lansiwyd gwefan tidyMinds yn ystod haf 2021 i helpu pobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe i ddeall unrhyw deimladau negyddol y gallent fod yn eu profi a dod o hyd i'r cyngor a'r gefnogaeth gywir.

Offeryn ar-lein i bobl ifanc, eu teuluoedd a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu cefnogi yw tidyMinds. Mae'n archwilio materion iechyd meddwl a lles, ac yn cynnig gwybodaeth am sut a ble y gellir cyrchu cefnogaeth. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar bobl ifanc rhwng 12 a 19 oed, ond mae hefyd yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth i bobl ifanc o dan 12 a hyd at 25 oed.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth glir a chyson i bobl ifanc, mae tidyMinds hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer gweithwyr proffesiynol a allai fod yn ei chael hi'n anodd llywio system gymhleth.

Mae tidyMinds yn ganolbwynt gwybodaeth ac nid yw wedi'i gynllunio i wneud diagnosis o broblemau emosiynol neu gyflyrau iechyd meddwl.

Gallwch gyrchu gwefan tidyMinds trwy ymweld â tidyMinds.org.uk

Gallwch hefyd fynd yma i ddarllen mwy am lansiad tidyMinds

Kooth - Eich cymuned llesiant ar-lein

Yn ogystal â tidyMinds mae yna hefyd gwnsela rhithwir newydd a chefnogaeth i bobl ifanc yn ein rhanbarth o'r enw Kooth - kooth.com

Bydd plant a phobl ifanc sy'n byw yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot yn gallu defnyddio gwasanaeth cwnsela digidol anhysbys a chymorth iechyd meddwl.

Wedi'i gynllunio fel cymuned wedi'i diogelu'n llawn a'i rhag-gymedroli, mae gwasanaeth achrededig Cymdeithas Seicotherapi a Chynghori Prydain yn cynnig sesiynau cwnsela anhysbys un i un gyda chwnselwyr hyfforddedig a chymwysedig llawn ac ymarferwyr lles emosiynol.

Ar ôl mewngofnodi, gall defnyddwyr gyrchu byrddau neges ac ymweld â llyfrgell o gynnwys arddull cylchgrawn hunangymorth a grëwyd gan eu cyfoedion ac arbenigwyr iechyd meddwl.

Gallwch hefyd fynd yma i ddarllen mwy am lansiad Kooth

Pecyn cymorth pandemig iechyd meddwl Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed

Ydych chi'n berson ifanc sy'n cael y pandemig yn amser anodd? Gan gydnabod bod llawer o bobl ifanc yn cael y sefyllfa bresennol yn heriol mae Llywodraeth Cymru wedi creu adnodd ar-lein sy'n hyrwyddo'r nifer o offer digidol sydd wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi pobl ifanc â'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol eu hunain.

Mae Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl y Person Ifanc yn cysylltu pobl ifanc, rhwng 11 a 25 oed, â gwefannau, apiau, llinellau cymorth, a mwy i adeiladu gwytnwch a'u cefnogi trwy'r pandemig Coronavirus a thu hwnt. Mae'r dyluniad syml yn galluogi defnyddwyr i reoli eu hiechyd meddwl trwy gyfrwng sy'n addas iddyn nhw, gyda gwybodaeth, hunangymorth, a chyngor ar sut i geisio cefnogaeth bellach wedi'i hymgorffori drwyddi draw.

Gallwch gyrchu'r pecyn cymorth trwy glicio yma.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.