Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Noddfa Iechyd Meddwl Hafal

Gwasanaeth Noddfa Iechyd Meddwl Hafal

Mae’r Noddfa yn wasanaeth sydd ar gael y tu hwnt i oriau swyddfa arferol ac yn cynnig cymorth y marferol a therapiwtig, holistaidd ac sy’n canoli ar y person, a hynny er mwyn cefnogi pobl sydd mewn risg o brofi argyfwng iechyd meddwl. Mae’r gwasanaeth ar gael 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, rhwng 6pm a 2am.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnig mewn awyrgylch groesawgar a chartrefol gyda lolfa fawr, cegin/man bwyta, cawod a chyfleusterau golchi
dillad. Mae yna fannau preifat hefyd ar gyfer y sawl sydd angen amser tawel a chymorth 1:2:1.

Mae’r Noddfa yn ceisio lleihau’r nifer sydd yn gorfod mynd i’r ysbyty a’n lleihau’r risg o bobl yn profi niwed yn eu cartrefi. Bydd diogelwch a llesiant unigolion yn cael eu hasesu yn llwyr cyn iddynt ddychwelyd adref, gydag atgyfeiriadau yn cael eu gwneud i wasanaethau eraill fel sydd angen.

Am fwy o wybodaeth am Wasanaeth Noddfa Iechyd Meddwl Hafal, dilynwch y ddolen hon i’w gwefan.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.