Neidio i'r prif gynnwy

Oedolion 18+

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau arbenigol eraill a byrddau iechyd cyfagos i wella'r gofal y mae cleifion yn ei dderbyn.

Mae hyn yn golygu bod mwy nag un tîm - fel therapïau seicolegol; timau iechyd meddwl cymunedol; staff allgymorth pendant, datrysiadau argyfwng a gwasanaethau cyswllt gofal iechyd sylfaenol/timau gweithwyr porthol - yn cydweithio i ddatblygu cynlluniau gofal a thriniaeth unigol.

Mae menywod beichiog a mamau newydd yn cael cynnig gofal a thriniaeth gan ein gwasanaeth amenedigol.

Mae gennym wardiau asesu a derbyn yn ysbytai cymunedol Cefn Coed, Castell-nedd Port Talbot, Tonna ac Ystradgynlais.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda staff y ddalfa a charchardai. Mae tîm iechyd meddwl mewngymorth y carchar wedi'i leoli yng Ngharchardai Parc ac Abertawe ac mae tîm mewngymorth yn gweithio gyda staff dalfa'r heddlu.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.