Neidio i'r prif gynnwy

500 a mwy o frechiadau'r dydd ar eu ffordd yng Nghanolfan Brechu Torfol Orendy Margam

Mae menyw, yn eistedd, yn derbyn brechiad yn y fraich gan nyrs.

Prif lun: Rheolwr cartref gofal, Julie Edwards, 56 oed, o Gymla, Castell-nedd, oedd y person cyntaf i dderbyn brechiad Pfizer BioNTech Covid yn Orendy Margam ddydd Llun, Ionawr 11eg gan y nyrs Joy Watts.

 

Cafodd rhaglen frechu Covid-19 Bae Abertawe hwb mawr yr wythnos hon pan agorwyd drysau Canolfan Brechu Torfol Orendy Margam ym Mharc Margam.

Yn ystod ei hwythnos gyntaf, bydd y ganolfan ar agor am nifer gyfyngedig o ddyddiau. Yna bydd yn datblygu i gyflenwi hyd at 500 dos o’r brechlyn bob dydd, er mwyn helpu i ddiogelu iechyd preswylwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot ac ar draws ardal Bae Abertawe.

Bydd brechiadau trwy wahoddiad yn unig . Cysylltir â phobl trwy lythyr neu ffôn pan ddaw eu tro i gael eu brechu mewn ysbyty, yn eu meddygfa, yn eu cartref, neu yn un o ganolfannau brechu Margam, Gorseinon neu Ysbyty Maes y Bae.

Wrth groesawu’r datblygiad diweddaraf, dywedodd Dr Keith Reid, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Bydd Orendy Margam - ynghyd â’r canolfannau brechu torfol eraill yn Ysbyty Maes y Bae ar Ffordd Fabian, a agorodd cyn y Nadolig, a Chanolfan Gorseinon, a fydd yn agor yn fuan - yn caniatáu i ni gynyddu ein rhaglen frechu ymhellach, sef rhaglen sydd eisoes wedi dechrau’n dda.

Deg o bobl, yn eistedd, mewn ystafell yn aros am frechiad, Y 10 claf cyntaf yn aros am eu brechiadau Covid yng Nghanolfan Brechu Torfol Orendy Margam, a agorodd ddydd Llun, Ionawr 11eg. Enw'r cerflun yn y canol yw 'Scene of the Deluge' gan Matthieu Kessels. Credyd: BIPBA

“Mae’r brechlynnau’n cael eu rhoi yn nhrefn meini prawf bregusrwydd, sef meini prawf sydd wedi’u cytuno’n genedlaethol, a’n nod yw brechu pobl sydd yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf erbyn canol Chwefror. Rydym yn gofyn i bawb fod yn amyneddgar wrth i ni frechu ar sail y blaenoriaethau hyn cyn gynted â phosibl. Peidiwch â mynd i ganolfan frechu heb apwyntiad.

“Er bod y rhaglen hon yn rhoi gobaith da ar gyfer y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i reoli lledaeniad y feirws a bod pawb yn dilyn y rheolau. Dylech leihau eich cyswllt ag eraill. Peidiwch â chymysgu â phobl nad ydych yn byw gyda nhw. Peidiwch ag ymweld â phobl yn eu cartrefi. Golchwch eich dwylo, gwisgwch orchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do a chadwch o leiaf ddau fetr oddi wrth eraill. "

Dewiswyd yr Orendy fel canolfan brechu torfol ar ôl craffu’n ofalus ar nifer o safleoedd posib. Hwn oedd y safle a oedd yn rhagori yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan ddarparu'r holl gyfleusterau yr oedd eu hangen, fel bod yn hygyrch, bod â lle agored a maes parcio, bod yn ddigon o faint ac yn ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae Parc Margam wedi bod yn safle o bwysigrwydd hanesyddol ers amser maith ac mae bellach ar fin chwarae rhan ganolog arall yn stori Castell-nedd Port Talbot wrth i’r Orendy ddod yn ganolfan brechu torfol i bobl yn y fwrdeistref sirol.

“Fel cyngor rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r frwydr yn erbyn y feirws yma ac rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Iechyd a Chyngor Abertawe i helpu i hwyluso’r rhaglen frechu dorfol ar draws ardal Bae Abertawe. Rwy'n falch iawn bod y rhaglen ar y gweill ac rydym yn falch o chwarae rhan ynddi.

Delwedd allanol Orangery Margam. Agorodd yr Orendy ym Mharc Margam fel Canolfan Brechu Torfol ar ddydd Llun, Ionawr 11eg.
Credyd: BIPBA

“Bydd yr Orendy’n chwarae rhan hanfodol, gyda degau o filoedd o ddosau o’r brechlyn yn cael eu rhoi yno dros y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, mae'n gwbl hanfodol ein bod ni i gyd yn parhau’n wyliadwrus ac yn parhau i ddilyn y cyngor iechyd cyhoeddus ar olchi dwylo, pellhau cymdeithasol a gorchuddion wyneb dros y misoedd nesaf. ”

Mae cyflwyno'r cyfleuster hanfodol hwn o fewn amserlen fer iawn wedi ei gwneud yn ofynnol i sawl asiantaeth weithio'n agos, gan ddefnyddio amrywiol arbenigeddau i gyflawni'r nod cyffredin hwn. Gwnaeth staff Cyngor CNPT amrywiaeth o baratoadau i sicrhau bod yr Orendy’n barod ar gyfer gwneud brechiadau, gyda chymorth gan staff yr Orendy, Gwasanaethau Cyfreithiol, Gwasanaethau Addysg a Hamdden, Cynllunio Brys a'r Adran Iechyd a Diogelwch.

Mae Canolfan Brechu Margam yn cael ei staffio gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, nyrsys asiantaeth, gwirfoddolwyr a 10 aelod o staff personél yr RAF sy'n gwasanaethu gyda Band Canolog yr RAF, Band Catrawd yr RAF a Cherddorfa Salon yr RAF, sydd i gyd wedi'u lleoli yn Llundain fel arfer. Bu dynion a menywod yr RAF yn helpu i sefydlu'r Ganolfan Brechu Torfol ddydd Sadwrn ac maent bellach yn cyflawni dyletswyddau anghlinigol, sy’n cynnwys cyfarch cleifion, eu cofrestru a sicrhau llif cleifion.

Mae dwy ardal frechu yn yr Orendy sy'n ei gwneud yn bosib i 20 o bobl gael eu brechu ar y tro. Mae 10 cadair ym mhob ardal. Dim ond tua hanner awr y mae'r broses gyfan yn ei chymryd. Rhaid i gleifion aros 15 munud ar ôl y brechiad i sicrhau eu bod yn teimlo'n iawn.

Fe wnaeth Phylippa Thomas-Dyer, 56 oed, sy’n fetron dros dro yn Ysbyty Singleton, dderbyn ei brechiad Covid ddydd Llun. Ar hyn o bryd, mae’n cysgodi gyda'i gŵr gan fod canser arno a’i fod yn cael triniaeth cemotherapi.  Dywedodd ei bod yn teimlo’n rhwystredig oherwydd bod cynifer o bobl sydd fel petaen nhw’n parhau i fethu â chymryd y feirws o ddifrif:

“Mae wedi bod yn gyfnod go anodd. Rwy’n ceisio diogelu fy ngŵr, ” meddai.

“Mae’n rhyddhad enfawr cael y brechiad a gobeithio bod golau ar ddiwedd y twnnel nawr.

“Ond mae angen i bobl gadw at y rheolau o hyd a deall beth sy'n digwydd.

“Mae'n rhwystredig iawn pan ydw i’n gweld nad yw pobl yn ei gymryd o ddifrif.”

Anthony McCarthy yn dosbarthu glanweithydd dwylo. Anthony McCarthy, sy’n bianydd yng Ngherddorfa Salon yr RAF, yn cyfarch nyrs o Ysbyty Singleton, sef Diane Green, ac yn rhoi rhywfaint o hylif diheintio dwylo iddi.
Credyd: BIPBA

Julie Edwards, 56 oed o Gymla, Castell-nedd, sef Rheolwr Cartref Nyrsio Brynsiriol yn Llansawel, oedd y person cyntaf i gael ei brechu yn yr Orendy gan y nyrs Joy Watts. Dywedodd: “Cawson ni ein heffeithio’n fawr (gan y feirws), felly mae’n rhyddhad cael y brechiad.

“Mae wedi bod yn ofnadwy i bawb, i bob cartref gofal a phob ysbyty.

“Fy nghyngor i eraill yw cael y brechiad. Dyma'r unig ffordd rydyn ni'n mynd i weld diwedd hyn. Mae'n rhaid ei wneud. ”

Mae Jordan Williams, 31 oed, o Glydach, Abertawe, yn gweithio mewn cartref diogel i blant ac roedd ymhlith yr 20 o bobl gyntaf i gael eu brechu yn yr Orendy. Dywedodd: “Rwy’n teimlo’n iawn am gael y brechiad. Mae angen i ni geisio cael rhywfaint o normalrwydd yn ôl.

“Fe ddaeth (y feirws) i’n lleoliad ni ac mae’n edrych fel petaen ni wedi dod drwyddi, ond mae’r brechiad yma’n rhoi sicrwydd i ni.”

Erbyn diwedd mis Ionawr, bydd pob cartref yn y rhanbarth yn derbyn llythyr a fydd yn amlinellu sut bydd y brechiad ar gael, sut i gael eich apwyntiad brechu a'r drefn sydd wedi’i chytuno ar gyfer brechu pobl. Cyhoeddir diweddariadau rheolaidd hefyd ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: https://bipba.gig.cymru/