Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad brechiadau MMR, Awst 2023

Mae ein gwasanaeth imiwneiddio Bae Abertawe ar hyn o bryd yn cysylltu â theuluoedd sydd efallai ddim yn gyfredol â'u hamserlen brechu MMR. Mae MMR yn rhan o Raglen Imiwneiddio Plentyndod Arferol y GIG. Anogir rhieni y mae eu babanod wedi colli allan, neu unrhyw un o unrhyw oedran heb ei frechu, i ddod ymlaen.

A ydych yn ymwybodol o'ch brechiadau MMR diweddaraf?

Dyma gyfle da i wirio gan fod y rhai sydd ddim erioed wedi cael brechlyn y frech goch (MMR) mewn perygl.

Gyda phwy i gysylltu i wirio?

Gall rhieni neu warcheidwaid plant dan bump oed gysylltu â'u hymwelydd iechyd ac ar gyfer unrhyw un dros bump oed gallwch gysylltu â'ch meddyg teulu. Fel arall, os hoffech ragor o wybodaeth am y brechlyn MMR, cysylltwch â'n tîm imiwneiddio ar 01792 200492.

Os ydych wedi symud yma o tu allan i'r DU yn ddiweddar, mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch meddyg teulu pa frechlynnau rydych wedi'u cael yn flaenorol. Gall nyrs y practis roi cyngor i chi pa frechlynnau y gallai fod eu hangen arnoch i'ch diogelu chi a'ch teulu rhag clefydau fel y peswch neu'r frech goch.

Yn bwriadu mynd i ffwrdd ar gyfer gwyliau'r haf?

Fel rhan o'ch asesiad iechyd teithio bydd eich nyrs practis yn cynghori'n rheolaidd pa frechlynnau sydd eu hangen arnoch i'ch diogelu rhag clefydau (fel teiffoid neu hepatitis ). Os nad ydych wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR, bydd hyn yn cael ei argymell.

Rydym yn ymwybodol bod achosion o’r frech goch yn Llundain ar hyn o bryd, ac os yw eich gwyliau yn y DU, byddem yn cynghori os nad ydych wedi cael brechlyn MMR, i ystyried hyn nawr. Er bod y risg o achosion mawr o’r frech goch y tu allan i Lundain yn isel, gallem weld achosion llai mewn poblogaethau penodol, gan gynnwys pobl ifanc yn eu harddegau, pobl ifanc a chymunedau sydd wedi’u tan-frechu.

Os ydych yn aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd yr Adran Iechyd Galwedigaethol yn cynnal sesiynau brechu 'galw heibio' yn ystod mis Awst.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.