Neidio i'r prif gynnwy

Clwstwr y Cymoedd Uchaf

Logo ar gyfer Clwstwr y Cymoedd Uchaf

Mae Clwstwr y Cymoedd Uchaf yn cynnwys pedwar meddygfa - Partneriaeth Amman Tawe, Canolfan Gofal Sylfaenol Cwm Dulais, Canolfan Gofal Sylfaenol Pontardawe a Phractis Bro Castell-nedd - sy'n darparu gwasanaethau o wyth safle ac yn gweithio gyda phartneriaid o'r gwasanaethau cymdeithasol, y sector gwirfoddol, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae'r clwstwr yn gwasanaethu poblogaeth o 32,138 o gleifion sydd wedi'u cofrestru gyda'r meddygfeydd.

Mae'n cynnig mynediad i 10 fferyllfa, 2 optegydd, phedwar practis deintyddol ac un cartref nyrsio.

Y fferyllfeydd yn y clwstwr yw: Fferyllfa Davies Ltd, Fferyllfa Dyffryn, Fferyllfa GCG, Fferyllfa MW Phillips (Crynant), Fferyllfa MW Phillips (Seven Sisters), Fferyllfa Pontardawe, Fferyllfa Resolfen Ltd, Fferyllfa Vale of Neath, Fferyllfa Well (Cwmllynfell) a Fferyllfa Well (Pontardawe).

Y deintyddfeydd yn y clwstwr yw: Canolfan Ddeintyddol Cwmdulais, Y Lolfa Ddeintyddol (Glyn-nedd), Deintyddol GCG a Chanolfan Ddeintyddol Pontardawe.

Yr optegwyr yn y clwstwr yw: Optegwyr Darlington (Glyn-nedd) a Phil Thomas Eyecare (Pontardawe).

Arweinydd y Clwstwr yw Niki Watts.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen cynllun blynyddol Clwstwr y Cymoedd Uchaf ar gyfer 2024/25.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.