Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti, a allai fod yn Saesneg yn unig.
Mae clwstwr Penderi yn grŵp o chwe meddygfa sy’n darparu gofal i boblogaeth o tua 37,443 yn ardaloedd Blaenymaes, Portmead, Treboeth, Fforestfach, Ravenhill, Brynhyfryd, Trefansel, Gendros a Phenlan yn Abertawe.
Mae'n cynnwys pum practis meddygol, sef Canolfan Feddygol Brynhyfryd, Canolfan Feddygol Cwmfelin, Grŵp Meddygol Fforestfach (gan gynnwys meddygfa Dr Bensusan a Meddygfa Dr Sartori) a Meddygfa Trefansel.
Yn ogystal â hyn, mae gan y clwstwr bum practis deintyddol, naw fferyllfa, tri optegydd, pedwar cartref nyrsio, naw ysgol gynradd a dwy ysgol uwchradd.
Y fferyllfeydd o fewn y clwstwr yw: Boots the Chemist (Morfa), Knights Cwmfelin, Lewis Chemist Ltd, Tesco Instore Pharmacy (Fforestfach), Fferyllfa Treboeth, Fferyllfa Ffynnon (Caereithin), Fferyllfa Ffynnon (Gendos), Fferyllfa Ffynnon (Trefansel) a Ffynnon Fferyllfa (Penlan).
Y practisau deintyddol yn y clwstwr yw: Practis Deintyddol Brynhyfryd, Deintyddfa Cwmbwrla, Canolfan Ddeintyddol Llangyfelach, Practis Deintyddol Manor Road a Practis Deintyddol Ravenhill.
Yr optegwyr o fewn y clwstwr yw: Boots Heol Caerfyrddin, GD Spectacles (Cwmbwrla) a Vision Express Fforestfach (Tesco).
Arweinydd y Clwstwr yw Dr Sowndarya Shivaraj.
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen cynllun blynyddol Clwstwr Penderi ar gyfer 2024/25.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.