Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy'n gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, wedi llunio'r hyn a elwir yn Gynllun Cyhoeddi Enghreifftiol y mae'r Bwrdd Iechyd wedi ei fabwysiadu ac y mae wedi'i ymrwymo'n ffurfiol iddo. Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd wedi cyhoeddi Dogfen Diffinio ar gyfer Sefydliadau GIG sy'n nodi, mewn cryn fanylder, beth yw ei ddisgwyliadau lleiaf o ran y Bwrdd Iechyd.
(Yn anfoddus, nid yw dogfennau a ddarparwyd gan swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gael yn Gymraeg.)
Er mwyn ei gwneud yn haws, mae'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys mewn Cynllun Cyhoeddi wedi'i rhannu'n 7 adran. Cliciwch ar y dolenni ar gyfer pob dosbarth i gael dadansoddiad manylach o'r wybodaeth.
Gwybodaeth sefydliadol, lleoliadau a chysylltiadau, llywodraethu cyfansoddiadol a chyfreithiol.
Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a gwariant amcanol a gwirioneddol, tendro, caffael a chontractau.
Gwybodaeth strategaeth a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, arolygiadau ac adolygiadau.
Cynigion a phenderfyniadau polisi. Prosesau gwneud penderfyniadau, meini prawf a gweithdrefnau mewnol ac ymgynghoriadau.
Protocolau ysgrifenedig cyfredol ar gyfer cyflawni ein swyddogaethau a'n cyfrifoldebau.
Gwybodaeth a gedwir mewn cofrestri sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith a rhestrau a chofrestrau eraill sy'n ymwneud â swyddogaethau'r awdurdod.
Cyngor ac arweiniad, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i'r cyfryngau. Disgrifiad o'r gwasanaethau a gynigir.