Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth 4 - Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

  • Papurau'r Bwrdd
    • Papurau'r Bwrdd
    • Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch
  • Strategaeth Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd (PPI)
  • Ymgynghoriadau Cyhoeddus
    • Mae'r Bwrdd Iechyd yn credu bod gan y cyhoedd a chleifion lais pwysig y dylid ei glywed. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnwys y cyhoedd a chleifion wrth wneud penderfyniadau lle bynnag y bo modd.
    • Bydd yr holl ymgynghoriadau cyhoeddus ffurfiol yn cael eu hysbysebu yn y wasg leol, gyda phosteri a thaflenni gwybodaeth hefyd yn cael eu dosbarthu i eiddo lleol fel ysbytai, meddygfeydd a deintyddfeydd, llyfrgelloedd a swyddfeydd post. Mae ymgynghoriadau fel arfer am gyfnod o ddeuddeg wythnos o leiaf a bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael eu hystyried gan y Bwrdd Iechyd.
    • Ar ddiwedd ymgynghoriad cyhoeddus, bydd adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad a'r ymatebion yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd, ynghyd ag argymhelliad ar y camau gofynnol sy'n codi o'r ymgynghoriad. Mae'r holl ymgynghoriadau cyfredol a blaenorol ar gael ar ein gwefan: Ymgysylltu â'r Cyhoedd ac Ymgynghori
  • Cyfathrebu Mewnol
    • Mae'r Bwrdd Iechyd yn cael ei reoli gan ei Reolau Sefydlog a'i Gyfarwyddiadau Ariannol 
Noder, nid yw'r dogfennau a grybwyllir ar y dudalen hon ar gael ar wefan Cymraeg ar hyn o bryd. Cyfeiriwch at y dudalen Saesneg i weld nhw.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.