Mae CISS yn darparu ymweliadau cefnogol rhwng ysbytai, y cartref a'r gweithle ar gais, cwnsela a llinell gymorth ffôn.
Wedi'i ddarparu gan Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS), InfoEngine yw'r cyfeirlyfr ar-lein o wasanaethau'r Trydydd Sector (gwirfoddol / cymunedol), sydd bellach yn cynnwys Cymru gyfan. Gallwch chwilio am wasanaethau sy'n berthnasol i'ch mater.
Yn darparu cefnogaeth gorfforol ac emosiynol i bobl â chanser. Maent yn cynnig ystod o therapïau cyflenwol yn rhad ac am ddim yn ogystal â digwyddiadau, cyrsiau a boreau coffi.
Mae'n darparu cyngor a chefnogaeth i bobl sy'n byw gyda chanser a'u teuluoedd. Mae Macmillan yn rhedeg llinell gymorth a gall helpu gyda'r costau ychwanegol y gall canser eu hachosi.
Mae gan Maggie's ganolfan yn Ysbyty Singleton, sy'n darparu cefnogaeth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol.
Sylwch: Ni ellir dal y bwrdd iechyd yn gyfrifol am gywirdeb y wybodaeth a gedwir ar wefannau allanol. Hefyd, nid oes fersiwn Gymraeg ar gyfer pob un o'r tudalennau trydydd parti yma.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.