Mygydau wyneb: Oherwydd y cynnydd sydyn mewn heintiau Covid-19 yn ein cymunedau ac ar ein wardiau, rydym yn mynnu bod yr holl staff, cleifion ac ymwelwyr yn gwisgo masgiau wyneb ym mhob maes clinigol a chyhoeddus, ym mhob lleoliad iechyd a gofal, oni bai eu bod wedi'u heithrio.
Mae pedwar allan o bob pump person sy'n byw gyda chanser yn profi problemau ariannol, sy'n cyrraedd hyd at £570 y mis ar gyfartaledd, yn ôl ymchwil a gynalwyd gan Gymorth Canser Macmillan.
Dyma pam mae'r elusen yn gweithio mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r bobl sy'n byw gyda diagnosis, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Mae cynghorwyr Macmillan yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n cynnwys asesu eich hawl am fudd-daliadau, cynorthwyo gyda hawliadau, apelio yn erbyn penderfyniadau budd-daliadau a hyd yn oed helpu gyda pharcio ceisiadau Bathodyn Glas.
Un o bodiau Gwybodaeth Macmillan
Cymorth Canser Macmillan