Rydym yn parhau i gynnig boosters Covid-19 yn lleol wrth i ni roi'r camau angenrheidiol ar waith i ehangu ein rhaglen ar draws Bae Abertawe.
Fodd bynnag, mae'r logisteg sy'n gysylltiedig â mwy na threblu ein cyfradd frechu gyfredol yn heriol ac nid yw'r holl flociau adeiladu angenrheidiol ar waith eto.
Tra byddwn yn gweithio ar y camau nesaf hyn, os oes gennych apwyntiad atgyfnerthu eisoes, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei flaenoriaethu, ac osgoi ceisio ei aildrefnu i amser mwy cyfleus. Cael pigiad atgyfnerthu yw'r anrheg orau y gallwch chi ei rhoi i'ch hun y Nadolig hwn.
Byddwch yn derbyn apwyntiad i fod yn bresennol ar gyfer eich brechiad atgyfnerthu. Ar hyn o bryd nid oes clinigau brechu cerdded i mewn ar gyfer boosters, er y gallwn eu cyhoeddi yn nes ymlaen wrth i gynlluniau esblygu. Ar hyn o bryd ni allwch drefnu apwyntiad ar-lein. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu neu ni i geisio trefnu apwyntiad, er bod croeso i chi ymuno â'n rhestr wrth gefn (os oedd eich ail frechiad dros dri mis yn ôl) a gallwch ddod ar fyr rybudd.
Ewch i'r dudalen hon i gyrchu'r ffurflen rhestr wrth gefn.
Dywedodd ein Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Dr Keith Reid: “Er mwyn cwrdd â’r bygythiad sylweddol a chynyddol y mae’r amrywiad Omicron yn ei beri i iechyd y cyhoedd a’r GIG, rydym yn ymgymryd â gwaith brys er mwyn cynyddu ein rhaglen atgyfnerthu brechlyn Covid.
“Nid oes gennym yr holl fanylion i’w rhoi ichi heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 13 eg ) gan ein bod yn dal i weithio allan y logisteg.
“Ond rydym yn debygol o fod yn edrych ar gynnydd sylweddol yn nifer y brechiadau bob wythnos y tu hwnt i’r hyn a ddarperir ar hyn o bryd.
“Byddwn yn ehangu ein gallu i ddarparu brechiadau ac yn galw grwpiau eraill o staff i gefnogi’r ymdrech hon. Mae hyn i gyd yn cymryd amser a gall ddargyfeirio adnoddau oddi wrth wasanaethau eraill.
“Unwaith eto byddwn yn gofyn llawer iawn gan ein staff ymroddedig a gweithgar, ac rydym yn gofyn i gleifion a’r cyhoedd ddwyn gyda ni wrth inni roi’r camau angenrheidiol ar waith.”
Byddwn yn diweddaru ar y sefyllfa atgyfnerthu yn rheolaidd trwy'r wythnos hon, fel rydyn ni'n gwybod mwy, felly cofiwch wirio ein cyhoeddiadau cyfryngau cymdeithasol, a'n gwefan. "
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.