Prif lun: Richard Little yn cael y brechlyn.
Mae preswylwyr mewn cartref gofal wedi dathlu cael eu brechiadau Covid drwy fwynhau caneuon a chael gwydraid o sieri.
Roedd preswylwyr Newton Court yn Abertawe mor falch fod brechwyr o West Cross a Meddygfa St Thomas wedi ymweld â nhw nes y trodd y brechu’n dipyn o barti.
Aeth y gweithiwr cartref gofal, Jake Jefferies, draw at y piano yn y lolfa tra bod ei gydweithwyr yn mynd o gwmpas â’r troli diodydd.
“Mae pob un o’n preswylwyr yn Newton Court wedi dewis cael y brechlyn. Roedden ni’n gallu siarad â nhw amdano yn ystod yr wythnosau cyn hynny ac roedd pob un o’r preswylwyr yn teimlo mai’r penderfyniad cywir oedd cael y brechlyn, ” meddai Jeremy Brown, Rheolwr Gyfarwyddwr Christadelphian Care Homes (CCH), sy’n berchen ar Newton Court.
Dywedodd Rheolwr Cynorthwyol Newton Court, Michelle Ross: “ Roedd y preswylwyr wedi ymgynnull yn y lolfa er mwyn cael eu brechu, gan gadw pellter cymdeithasol, ac roeddent hefyd wedi cael bore coffi.
“Ar ôl i’r brechiadau gael eu gwneud, gofynnodd un o'n preswylwyr am Danny Boy, aeth staff i nôl y Baileys a'r sieri a datblygodd y cyfan o’r fan yna.
“Roedd yn achos i lawenhau oherwydd i ni lwyddo i fynd drwy’r pandemig cyfan heb un achos yn ein cartref.”
Mae gan Newton Court 23 o breswylwyr rhwng 76 a 102 oed.
Dywedodd Jeremy fod canran uchel iawn o’r preswylwyr a’r staff yn eu holl gartrefi ledled y DU wedi dewis cael y brechlyn.
“Mae’r profiad yn Newton Court yn amlygu’r rhyddhad, y gobaith a’r ymdeimlad o bwrpas y mae’r brechlyn yn ei roi,” ychwanegodd.
Dywedodd Dr Nicola Jones, sy’n Feddyg Teulu Arweiniol ar gyfer y meddygfeydd lleol: “Roedd yn hyfryd gallu brechu preswylwyr ein cartrefi gofal o’r diwedd. Dyma oedd yr anrheg orau y gallen ni fod wedi'i rhoi iddynt. ”
Mae'r rhan fwyaf o breswylwyr cartrefi gofal ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot bellach wedi’u brechu gan feddygon teulu a nyrsys yn y gymuned.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos yr ymwelwyd â 58 o gartrefi gofal a rhoddwyd 1,600 o frechiadau.
Ni all y preswylwyr hynny sydd wedi'u heintio â Covid ar hyn o bryd gael y brechlyn, ond byddant yn cael ymweliad yn fuan.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol : “Mae'r 10 mis diwethaf wedi bod yn hynod heriol i breswylwyr a staff cartrefi gofal ond bellach mae llygedyn o oleuni ar ddiwedd y twnnel gan fod y brechlyn yn eu cyrraedd.
“Mae yna ffordd bell i fynd cyn i fywyd ddychwelyd i normal ond rwy’n siŵr y bydd cael y brechlyn yn rhyddhad enfawr i’r preswylwyr a’u perthnasau.
“Bydd y brechlyn yn cael yr un croeso ymhlith staff cartrefi gofal sydd wedi gwneud gwaith rhagorol yn ystod y pandemig, gan eu rhoi eu hunain a’u teuluoedd mewn perygl.
“Rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda'n cydweithwyr yn y bwrdd iechyd ac rwy'n gwybod eu bod nhw a'r clystyrau meddygon teulu yn gwneud pob ymdrech i ddosbarthu brechlynnau cyn gynted â phosib i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o'r feirws ofnadwy yma."
Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Dr Keith Reid: “Mae'r rhaglen frechu hon yn waith enfawr a chymhleth i bawb sy'n cymryd rhan ynddi, ond mae golygfeydd fel y rhain yn gwneud y cyfan yn werth chweil.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’n cydweithwyr mewn meddygfeydd lleol a oedd mor barod i wirfoddoli i fynd â’r brechlynnau i mewn i gartrefi gofal a gweithredu’n gyflym cyn gynted ag y cawson nhw’r cyflenwadau.
“Gallwn ni sicrhau trigolion yr ardal fod pawb yn y GIG ac yn y cynghorau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y brechiadau Covid yn cael eu rhoi i aelodau mwyaf bregus ein cymunedau cyn gynted â phosibl, ac mewn ffordd mor gyfleus a diogel â phosibl.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.