Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Rheolwr Ysbyty Lleyg (Deddf Iechyd Meddwl)

Rydym am benodi pobl addas i gyflawni rôl Rheolwyr Ysbytai Lleyg o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Mae rôl rheolwr ysbyty yn rôl statudol fel y'i diffinnir yn Neddf Iechyd Meddwl 1983 (y Ddeddf) ac mae'n darparu amddiffyniad i'r cleifion hynny sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf neu sy'n destun gorchmynion triniaeth gymunedol.

Mae rheolwr ysbyty lleyg yn rôl a ddirprwyir gan swyddogion a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd er mwyn cynnal adolygiadau o orchmynion cadw neu driniaethau cymunedol ar gyfer y cleifion hynny o dan y Ddeddf. Gan gymryd rhan fel aelod panel o dri byddwch yn ystyried a chraffu i weld a yw’r cyfiawnhad cyfreithiol wedi’i fodloni a/neu a ddylech arfer y pŵer rhyddhau.

Darperir cyfnod cychwynnol o hyfforddiant er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ac i gefnogi'r swyddogaeth a gyflawnir ar ran rheolwyr yr ysbyty. Mae'n ofynnol i aelodau fynychu unrhyw sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd a gynhelir bob 6 mis.

Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau ceisiadau o amrywiaeth eang o gefndiroedd waeth beth fo'u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, a chyfeiriadedd rhywiol.

Rydym yn croesawu unigolion sydd naill ai wedi cael profiad uniongyrchol o wasanaethau Iechyd Meddwl neu sydd â phrofiad o fyw gydag anabledd neu sy'n niwroamrywiol.

Byddem yn awyddus i gael ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig er mwyn cynrychioli ein cleifion yn gyfartal ym Mae Abertawe.

Mae hon yn rôl bwysig a heriol a dylai fod gan reolwyr ysbyty sgiliau cyfathrebu cryf a all annog cleifion i fynegi eu teimladau eu hunain am eu gorchymyn cadw neu driniaeth gymunedol. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau gwrando da a'r gallu i gymhathu gwybodaeth yn gyflym a rhaid iddynt hefyd gydnabod a pharchu materion yn ymwneud â chyfrinachedd a diogelu data.

Mae rheolwyr ysbyty yn annibynnol ar y Bwrdd Iechyd fel eu bod yn parhau i fod yn ddiduedd ac yn gweithredu’n gadarnhaol tuag at degwch a chydraddoldeb wrth sicrhau bod hawliau cleifion yn cael eu cynnal o fewn telerau’r Ddeddf Iechyd Meddwl wrth wneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth a gyflwynir iddynt.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnig tâl am fynychu fel aelod o'r panel ac am unrhyw gostau teithio a dynnir tra ar fusnes y Bwrdd Iechyd ynghyd â thabled gyfrifiadurol electronig. (Taliad o £50 y gwrandawiad tra'n gweithredu fel Cadeirydd a £45 y gwrandawiad fel aelod o'r panel).

I gael rhagor o wybodaeth a/neu gyflwyno CV, cysylltwch â Penny Cram, Rheolwr Gwasanaeth Deddf Iechyd Meddwl yn Pennyjane.Cram@wales.nhs.uk

Os caiff ei benodi, bydd angen gwiriad DBS yn ogystal â dau eirda.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen y disgrifiad swydd llawn ar gyfer Rheolwr Ysbyty Cyswllt.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.