Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â'n Hyb Llawdriniaeth Ddewisol newydd yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi agor Hyb Llawfeddygaeth Ddewisol gwerth £6.1miliwn yn Ne Orllewin Cymru, a fydd yn cael ei lansio yn 2023. Wedi'i leoli yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot (NPTH), bydd y gwasanaeth yn ceisio sefydlu ei hun yn gyflym fel canolfan o rhagoriaeth ar gyfer llawdriniaethau orthopedig ac asgwrn cefn dewisol a lleoliad allweddol ar gyfer llawdriniaeth wroleg.

Eglurodd Mr Paul Williams (Cynghorydd Clinigol): “Mae symudiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe tuag at greu canolfannau Llawfeddygol Dewisol yn unol ag argymhellion Coleg Brenhinol y Llawfeddygon a Gwneud Pethau’n Iawn y Tro Cyntaf (GiRFT - Get it Right First Time). Ein dyhead yw datblygu canolfannau effeithlon a chynhyrchiol lle mae staff yn falch o weithio, ac sy'n sicrhau bod cleifion yn derbyn y safon gofal gorau posibl.

“Er mwyn cyflawni hyn, bydd arnom angen gweithlu ymroddedig a brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i’r delfrydau canolog hyn; rydym yn cydnabod y bydd angen i gyflogeion gael eu cefnogi'n llawn a'u hintegreiddio â hyfforddiant a hyrwyddo datblygiad proffesiynol. Ein nod yw creu canolfannau rhagoriaeth sy’n cyd-fynd â’r meini prawf achredu GiRFT sy’n datblygu.”

Gan weithio yn ein Hyb Llawfeddygaeth Ddewisol newydd sbon, gallwch ddisgwyl:

  • Theatrau o’r radd flaenaf, ystafelloedd gorffwys, ystafell seminar bwrpasol a chyfleusterau eraill newydd yn 2023 i wneud yr amgylchedd gwaith ffisegol yn bleser.
  • Arloesedd technolegol: y cyfle i weithio gyda'r offer a'r technegau diweddaraf  
  • Agwedd hyblyg at waith; o ran oriau/sifftiau, yn ogystal â datblygiad proffesiynol, gyda chyfleoedd i gylchdroi o amgylch arbenigeddau a meysydd o ddiddordeb (yn amodol ar adran)
  • Dilyniant gyrfa clir o fewn pob rôl
  • Ymchwiliwch i gyfleoedd trwy ein cysylltiadau cryf â Phrifysgol Abertawe  
  • Agosrwydd at doreth o draethau syfrdanol, opsiynau gweithgareddau awyr agored, lleoliadau theatr a chyngherddau, bwytai a bariau. Mae Bae Abertawe yn lle gwych i fyw, beth bynnag fo'ch amgylchiadau neu'ch hoffterau
  • Argaeledd costau byw fforddiadwy yn yr ardal, megis prisiau eiddo

Rydym yn cydosod tîm o'r gweithwyr proffesiynol clinigol ac anghlinigol gorau, ac os oes gennych yr arbenigedd, angerdd a'r bersonoliaeth gywir, rydym yn croesawu'ch cais. Ddim yn barod i wneud cais? Beth am gysylltu i drafod y rôl hon yn fwy manwl. E-bost: Sarah.dunderdale@wales.nhs.uk

Newydd i Fae Abertawe? Gwyliwch ein fideo i ddarganfod mwy am yr ardal hardd rydyn ni'n ei galw'n gartref. Sylwch - roedd y cyfeirnod pris eiddo ar gyfer 2021.

Bae Abertawe. Ble rydych chi'n perthyn.

 

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.