Neidio i'r prif gynnwy

Cwynion, pryderon, canmoliaeth

Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw darparu'r gofal a'r driniaeth orau oll. Rydym yn croesawu eich holl barn ac eisiau dysgu o'ch profiadau, boed yn dda neu'n ddrwg.

Mae mwyafrif helaeth y bobl yn hapus gyda'r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn. Ond weithiau, efallai na fydd pethau'n mynd cystal â'r disgwyl. Drwy ddweud wrthym am eich pryderon, gallwn ymddiheuro i chi, ymchwilio a cheisio unioni pethau. Byddwn hefyd yn dysgu gwersi ac yn gwella gwasanaethau.

Ewch i'n tudalen Adborth am wybodaeth ar sut i roi eich barn fel y gallwn ddysgu o'ch profiadau, boed yn dda neu'n ddrwg.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.