Gwneir asesiadau clyw ar gyfer plant o bob oed yn yr adran awdioleg baediatrig ac yn y clinigau awdioleg cymunedol.
Bydd y dull asesu yn amrywio yn dibynnu ar oedran a datblygiad y plentyn. Fodd bynnag, mae profion ymddygiad a gwrthrychol yn bosibl i'r mwyafrif o blant.
Rydym hefyd yn darparu cymhorthion clyw digidol i blant sydd wedi'u diagnosio â cholled clyw parhaol a dros dro, ac yn cadw'r plant hyn dan adolygiad rheolaidd.
Os ydych chi'n poeni am glyw eich plentyn, bydd angen atgyfeiriad arnoch i gael asesiad clyw gan y meddyg teulu, Ymwelydd Iechyd neu weithiwr meddygol proffesiynol arall.
Efallai y bydd yr asesiad yn digwydd yn yr adran cleifion allanol pediatreg yn Ysbyty Singleton, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, neu un o'r clinigau awdioleg cymunedol. I ddechrau, gellir cyfeirio'ch plentyn i'r adran clust, trwyn a gwddf (ENT) os yw'n briodol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.