Neidio i'r prif gynnwy

Clwstwr Afan

Logo ar gyfer Clwstwr Afan

Mae Clwstwr Afan yn cynnwys y meddygfeydd canlynol: Practis Grŵp Cwm Afan, Canolfan Iechyd Blaengwynfi, Canolfan Iechyd Cwmafon, Canolfan Iechyd Cymmer, Meddygfa Fairfield, Meddygfa'r Brenin, Meddygfa Mount, Meddygfa Glan yr Afon a Meddygfa Rosedale.

Mae'r clwstwr yn gwasanaethu poblogaeth gofrestredig o 50,845 o gleifion mewn amgylcheddau trefol a lled wledig.

Mae'n cynnig 13 fferyllfa, saith practis deintyddol a thri optegydd.

Y fferyllfeydd yn y clwstwr yw: Fferyllfa Adrian D Richards, Fferyllfa Allied Stryd Marsh, Fferyllfa Allied Port Talbot, Fferyllfa Allied Heol Treforys, Fferyllfa Baglan, Fferyllfa Boots (Aberafan), Fferyllfa MW Phillips (Blaengwynfi), Fferyllfa MW Phillips (Cymmer), Fferyllfa Sandfields, Fferyllfa Knights Taibach, Fferyllfa Well (Aberafan), Fferyllfa Well (Port Talbot) a Fferyllfa Knights William & Wheeler.

Y practisau deintyddol yn y clwstwr yw: Practis Deintyddol Baglan, Clinig Deintyddol y Cymmer, Uned Addysgu Ddeintyddol, Gofal Deintyddiol Twyni Cyf, Practis Deintyddiol Gupta, MyDentist Port Talbot a Practis Deintyddiol Heol Talbot.

Yr optegwyr o fewn y clwstwr yw: Optegwyr Boots Port Talbot, Siop Optegwyr Port Talbot a Specsavers Port Talbot. 

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen cynllun blynyddol Clwstwr Afan ar gyfer 2024/25.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.