Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth preifatrwydd

Os hoffech ddarganfod mwy am unrhyw astudiaeth benodol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd a sut mae'r Noddwr yn rheoli data yn yr astudiaeth honno, cysylltwch â'r tîm Ymchwil a Datblygu ar 01792 530889 a byddwn yn darparu manylion cyswllt priodol i chi.

Fel Bwrdd Iechyd Addysgu Prifysgol gweithredol, rydym hefyd yn gweithredu fel Noddwr anfasnachol (Sefydliad sy'n gyfrifol am ddylunio, goruchwylio a chynnal) ymchwil gofal iechyd ar gyfer astudiaethau dan arweiniad ein clinigwyr lleol. Rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol adnabyddadwy i gynnal ymchwil i wella iechyd, gofal a gwasanaethau. Fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod er budd y cyhoedd pan ddefnyddiwn wybodaeth bersonol-adnabyddadwy gan bobl sydd wedi cytuno i gymryd rhan mewn ymchwil. Mae hyn yn golygu pan fyddwch yn cytuno i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil, byddwn yn defnyddio'ch data yn y ffyrdd sydd eu hangen i gynnal a dadansoddi'r astudiaeth ymchwil. Mae eich hawliau i gyrchu, newid neu symud eich gwybodaeth yn gyfyngedig, gan fod angen i ni reoli  eich gwybodaeth mewn ffyrdd penodol er mwyn i'r ymchwil fod yn ddibynadwy ac yn gywir. Os byddwch yn gadael yr astudiaeth, byddwn yn cadw'r wybodaeth amdanoch yr ydym eisoes wedi'i chael. Er mwyn diogelu'ch hawliau, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth leiaf adnabyddadwy bersonol bosibl.

Dylai ymchwil iechyd a gofal wasanaethu budd y cyhoedd, sy'n golygu bod yn rhaid i ni ddangos bod ein hymchwil yn gwasanaethu buddiannau'r gymdeithas gyfan. Rydym yn gwneud hyn trwy ddilyn Fframwaith Polisi'r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Os ydych chi am ddarganfod mwy am sut rydyn ni'n rheoli'ch gwybodaeth neu sut i codi cwyn ar sut rydyn ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater. Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb neu'n credu ein bod yn prosesu'ch data personol mewn ffordd nad yw'n gyfreithlon gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Gellir cysylltu â'n Swyddog Diogelu Data yn SBU.DataProtectionOfficer@wales.nhs.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.