Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer apwyntiad awdioleg eich plentyn

Efallai bod eich plentyn wedi cael ei atgyfeirio atom am brawf clyw gan eich Meddyg Teulu, Ymwelydd Iechyd neu weithiwr proffesiynol arall neu efallai ei fod wedi cael ei weld yn Awdioleg yn flaenorol ac angen prawf clyw pellach. Bydd sut y byddwn yn asesu eu clyw yn dibynnu ar eu hoedran a'u datblygiad, ond fel arfer bydd yn cynnwys gêm wrando neu dasg. Os ydym wedi gofyn i chi ymarfer rhai gemau arbennig cyn i chi fynychu, gwnewch hynny gan ei fod yn debygol o wneud yr apwyntiad yn fwy hwyliog a llwyddiannus i'ch plentyn.

Os yw eich plentyn dros 2 flwydd a hanner oed, mae rhai gweithgareddau y gellir eu hymarfer gartref cyn eu hapwyntiad. Dilynwch y ddolen hon i weld gwybodaeth sy'n amlinellu'r gweithgareddau hyn.

Efallai na fydd eich plentyn wedi arfer gweld clinigwyr. Felly, efallai yr hoffech chi ddangos delweddau cartŵn cyfeillgar iddynt ar y rhyngrwyd yn gyntaf fel eu bod yn fwy cyfforddus gyda ni.

Os ydych chi'n mynychu adolygiad cymhorthion clyw, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dod â'r cymhorthion clyw ynghyd ag unrhyw ategolion gyda chi.

Rhowch wybod i ni os oes angen cymorth cyfathrebu arnoch neu os oes gennych unrhyw ofynion arbennig. Os ydych chi neu'ch plentyn yn feddygol fregus ac yn dymuno i'r aelod o staff wisgo mwgwd wyneb, dywedwch wrth yr aelod o staff yn yr apwyntiad. Fel arall, cysylltwch â'r adran ar y manylion cyswllt uchod cyn yr apwyntiad i drafod eich gofynion.

Isod mae rhai lluniau o rai o'n hystafelloedd clinig a mannau aros:

Ysbyty Singleton

Y drysau i fynedfa cleifion allanol y plant yn Ysbyty Singleton. Mynediad cleifion allanol i blant, Ysbyty Singleton

Ardal aros gyda llawr gwyrdd a chadeiriau coch a melyn. Mae teledu ar y wal hefyd. Ystafell aros cleifion allanol i blant, Ysbyty Singleton

Ystafell gyda chadeiriau a byrddau. Mae cyfrifiaduron ar rai o Ystafell Awdioleg, Ysbyty Singleton

Ysbyty Castell Nedd Port Talbot

Dwy res o gadeiriau cyfforddus. Mae Ystafell aros awdioleg, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Mae desg gyda chyfrifiadur ar ei ben a dau cadair glaf cyfforddus ochr arall iddo. Mae yna hefyd ddesg arall gyda chyfrifiadur yn yr ystafell. Mae Ystafell awdioleg, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Ysbyty Gorseinon

Ystafell gyda llawr pren brown a digon o gadeiriau o amgylch yr ystafell ac mewn rhesi yn wynebu ei gilydd. Ystafell aros, Ysbyty Gorseinon

Ystafell gyda desg a chadair i Ystafell awdioleg, Ysbyty Gorseinon

Ffordd Sway, Clinig Treforys

Ystafell gyda llawr coch ac ychydig o gadeiriau aros cleifion. Ystafell aros, Ffordd Sway Clinig Treforys

Ystafell gyda waliau glas, cadair clinigwr gyda desg a chyfrifiadur a dwy gadair las clustog ar ochr arall y ddesg Ystafell awdioleg, Ffordd Sway Clinig Treforys

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.