Mae SilverCloud yn adnodd ar-lein sy'n cynnig ystod wahanol o raglenni yn seiliedig ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) i'ch grymuso i ddatblygu sgiliau i reoli eich lles seicolegol gyda mwy o hyder, o hwylustod eich lleoliad eich hun ac yn eich amser eich hun.
Mae'r rhaglen yn cynnwys tua chwech i saith modiwl y gallwch eu cwblhau ar eich cyflymder eich hun. Byddwch yn derbyn adolygiadau bob pythefnos o bell a fydd yn cael eu hamserlennu gyda'ch Cydlynydd CBT ar-lein i'ch cefnogi trwy'r rhaglen. Y ffrâm amser dan arweiniad ar gyfer cwblhau yw 12 wythnos, ond bydd gennych fynediad i'r platfform am gyfanswm o 12 mis o'r dyddiad cofrestru. Un o brif fuddion y rhaglen hon yw y gallwch chi dipio i mewn ac allan cymaint neu gyn lleied ag y credwch sy'n addas. Mae'r rhaglen yn hawdd iawn i'w defnyddio, ac mae'r defnydd o offer rhyngweithiol yn gwneud eich profiad yn ddiddorol ac yn ysgogol.
Rydym yn falch iawn o lansio ein swyddogaeth hunan-atgyfeirio newydd i'n gwasanaeth CBT ar-lein, SilverCloud.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru neu os ydych chi wedi'ch cofrestru gyda meddyg teulu o Gymru, yn 16 oed neu'n hŷn, ac eisiau mynediad at therapi CBT ar-lein effeithiol heb orfod cael apwyntiad yn gyntaf gyda'ch meddyg teulu lleol neu weithiwr iechyd proffesiynol arall a meddwl bod SilverCloud yn addas i chi, ewch i wefan SilverCloud.
Ewch yma am dudalen gofrestru Silvercloud.
Gofynnir i chi ddewis un rhaglen a fyddai fwyaf buddiol i chi.
Y pum rhaglen sydd ar gael yw:
Ar ôl cwblhau'r hunanasesiad yn llwyddiannus, byddwch yn cael mynediad diogel ar unwaith i'r rhaglen CBT a gefnogir ar-lein. Os nad yw eich canlyniadau hunanasesu o fewn y trothwy priodol ar gyfer y gwasanaeth hwn, bydd clinigwr o'r tîm mewn cysylltiad â chi maes o law ar gyfer galwad ffôn ddilynol, oherwydd efallai nad y gwasanaeth hwn fydd y mwyaf buddiol i chi.
Gellir cyrchu'r 8 modiwl 'pwnc-benodol' ychwanegol, a restrir uchod, trwy anfon neges at y Cydlynydd CBT Ar-lein trwy'r platfform a gofyn i'r rhain gael eu datgloi.
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn 16 oed neu'n hŷn ac â diddordeb mewn cyrchu CBT ar-lein ond yn teimlo y byddai derbyn adolygiadau wyneb yn wyneb ag Ymarferydd CBT ar-lein Cyfunol, yn lle o bell gyda'r Cydlynydd CBT ar-lein, yn fwy buddiol , yna gall y swyddogaeth gyfunol fod yn fwy priodol i chi. Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, ymwelwch â'ch meddyg teulu.
I gael mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth, cysylltwch â:
01874 712428
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.